Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datblygu gofal preswyl o fewn y sir ar gyfer plant

Published: 10/06/2021

Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint gefnogi’r cynllun i ddod yn ddarparwr uniongyrchol o ofal preswyl i blant yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin.

Er mwyn sicrhau newid, rydym wedi nodi ymrwymiad i ddatblygu ein darpariaeth cartref gofal preswyl ein hunain ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’r cynnig yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau ar gyfer y tair mlynedd ariannol nesaf, trwy ddarparu’r prosiectau canlynol:

1. Seibiant a chymorth ar gyfer nifer cynyddol o blant anabl a’u rhieni/gofalwyr.

2. Darparu asesiad a chymorth therapiwtig arbenigol.

3. Darpariaeth brys: i alluogi ymateb effeithiol i argyfwng.

4. Cartrefi Grwpiau Bychan: i alluogi plant i fyw o fewn eu cymuned leol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones:

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn gofal o ansawdd uchel fel eu bod yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu caru a’u cefnogi i ddatblygu sgiliau a chadernid i fyw bywyd llawn.

“Ein prif nod yw cefnogi teuluoedd i ofalu am eu plant eu hunain, a’u rhwystro rhag dod yn blant sy’n derbyn gofal, os yw’n ddiogel gwneud hynny. Dyma beth mae mwyafrif ein teuluoedd eisiau a lle mae mwyafrif ein plant yn cyflawni eu potensial yn llawn.

“Os fydd plant angen derbyn gofal, rydym eisiau sicrhau y gallwn ddarparu lleoliadau addas ac amserol.  Mae gennym ddarparwyr lleol gwych yn cynnig gofal preswyl o safon i blant a phobl ifanc.  Fodd bynnag, mae lleoliadau yn brin ac rydym angen adeiladu ein capasiti yn lleol.  Mae darpariaeth sector preifat tu hwnt i’r ardal yn gostus, ac fel Rhiant Corfforaethol, nid dyma beth yr ydym ni eisiau ar gyfer ein plant.  Rydym eisiau eu cadw yn agos at gartref.  Bydd datblygu ein cartrefi preswyl ein hunain yn helpu i ddarparu gwasanaeth lleol gwell ar gyfer ein pobl ifanc.”