Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Priodasau a Phartneriaethau sifil yn yr Awyr Agored

Published: 22/06/2021

Wedding rings.jpgYn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar ddydd Sul, 20 Mehefin, mae’r Cyngor yn falch o gyhoeddi o 1 Gorffennaf bod newidiadau wedi’u cyflwyno er mwyn caniatáu cofrestriadau priodasau a phartneriaethau sifil yn gyfreithlon yn yr awyr agored ar dir eiddo cymeradwy.  

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Sir y Fflint:

“Mae’r Gwasanaeth Cofrestru yn croesawu’r cyhoeddiad hwn am ei fod yn darparu gwell hyblygrwydd i gyplau ar sut y maen nhw’n dymuno dathlu eu priodas neu bartneriaeth sifil. Gwyddwn fod cynllunio priodas wedi bod yn hynod anodd dros y flwyddyn ddiwethaf ond rydym yn gobeithio y bydd y newid hwn yn cael ei groesawu gan gyplau.  

“Dwi’n annog pobl i edrych ar ein gwefan a’r lleoliadau prydferth sydd â thrwyddedau ar gyfer priodasau sifil a phartneriaethau sifil ar draws y sir gan gynnwys y Swyddfa Gofrestru yn Neuadd Llwynegrin, Yr Wyddgrug.”

Mae’r Gwasanaeth Cofrestru yn gweithio gydag eiddo cymeradwy ar draws y sir i sicrhau cyflwyniad llyfn ar gyfer y newid hwn.  

Mae’r nifer o westeion sy’n gallu mynychu seremonïau priodasau sifil a phartneriaeth sifil yn dibynnu ar faint o bobl y mae’r lleoliad neu ofod yn gallu ei gynnal yn ddiogel gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle. Bydd hyn yn seiliedig ar asesiad risg Covid-19 o’r lleoliad neu’r gofod y tu allan a bydd y mesurau yn cael eu rhoi mewn lle i gyfyngu ar ledaeniad Covid-19. Gofynnir i gyplau gysylltu â’u lleoliad i drafod opsiynau ar gyfer archebion presennol a newydd.