Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn cynnig llwybr o Ddirwasgiad Covid i Dwf Gwyrdd mewn Cynnig Pecyn Ysgogi £400 miliwn 

Published: 29/06/2021

MDA.jpg

Cyhoeddodd Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, sy’n cynrychioli buddion economi unigryw trawsffiniol, gweithredol Sir y Fflint a Wrecsam yng Ngogledd Cymru a Gorllewin Swydd Gaer, a Chaer a Chilgwri yng Ngogledd Orllewin Lloegr, gynllun radical heddiw ar gyfer Pecyn Ysgogiad Cyllidol £400 miliwn ar gyfer Economi’r Mersi a’r Ddyfrdwy. Mae'r cynnig wedi cael ei gyflwyno i Weinidogion yn Llywodraethau Cymru a’r DU.

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy,

“Mae economi Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy wedi cael ergyd fawr yn sgil Covid-19. Mae ein Gwerth Ychwanegol Gros wedi lleihau o 15%, sydd gyfwerth â £3.5 biliwn cyn y pandemig, sef £22 biliwn o werth yr economi. Mae miloedd o swyddi wedi cael eu colli. Mae angen gweithredoedd yn hytrach na geiriau nawr i ddarparu ysgogiad cyllidol ar frys i economi Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, i achub swyddi a diogelu dyfodol ein clwstwr diwydiant gweithgynhyrchu sydd o'r radd flaenaf.

"Bydd ein cynigion i lywodraethau Cymru a’r DU yn creu a diogelu 5000 o swyddi, a chynhyrchu £1.2 biliwn mewn gwerth economaidd mewn cyfnod byr o amser."

"Mae’r pecyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth y DU i gryfhau'r undeb, cyflawni “lefelu” a gweithredu’r cynllun 10 pwynt ar gyfer “chwyldro diwydiannol gwyrdd”.

"Byddwn yn diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol gyda thwf cynhwysol a chynaliadwy fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru."

Dywedodd y Cynghorydd Louise Gittins, Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer,

“Rydw i’n teimlo’n angerddol dros newid hinsawdd a thwf cynaliadwy. Bydd Pecyn Ysgogiad Cyllidol Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn cyflymu buddsoddiad mewn trosglwyddo o danwyddau carbon i danwyddau adnewyddadwy newydd a gwyrdd megis hydrogen, gan ddal a storio carbon ar gyfer cyfnodau cychwynnol cynhyrchu hydrogen.

"Rydym yn cynnig buddsoddiad sylweddol mewn llwybrau beics a chludiant cyhoeddus i leihau allyriadau carbon a niweidiol o’n ceir. Bydd ein cynigion teithio llesol yn galluogi darpariaeth coridor seiclo strategol a fyddai'n cysylltu Penbedw â Chaer ac Ellesmere Port, ac o Orllewin Kirby i Lannau Dyfrdwy/Sir y Fflint, gan ddiddymu rhwystrau ac agor cyfleoedd cyflogaeth."

Meddai’r Cynghorydd Stuart Whittingham, Cyngor Cilgwri ac Is-gadeirydd Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, 

“Nid yw busnesau a phreswylwyr Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn gweld ffin rhwng Cymru a Lloegr. Maent yn gweld menter, y gadwyn gyflenwi, cyfleoedd cyflogaeth a hamdden mewn ardal gydag economi integredig a chyswllt diwylliannol agos. Dyna pam fod 153,000 o siwrneiau rhwng rhanbarthau y ddwy ffordd dros gyfnod o 24 awr bob dydd.

"Bydd ein heconomi yn ffynnu fwyaf gyda phartneriaeth gref rhwng llywodraethau Cymru a’r DU. Mae Cynnig y Gynghrair yn gyfle i wneud y mwyaf o dwf cynaliadwy a chynhwysol, a datblygu partneriaeth gadarnhaol rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU.

"Mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn bartneriaeth sy’n perfformio’n uchel rhwng Cynghorau, busnesau a phrifysgolion. Rydym yn fodel partneriaeth y gall Llywodraethau Cymru a’r DU weithio arno.”

Dywedodd Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint,

“Rydym wedi gweithio gyda phartneriaethau twf lleol cyfagos i ddatblygu ein cynigion. Bydd y Gynghrair yn parhau i weithio’n agos gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Menter Lleol Swydd Gaer ac Warrington, yn ogystal ag Awdurdod Cyfunol Dinas-Ranbarth Lerpwl. Byddwn yn osgoi dyblygiad a chyflenwad rhaglenni ein partneriaid.

"Mae Sir y Fflint yn cefnogi’r pecyn hwn fel cartref Airbus. Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cwmnïau gweithgynhyrchu gwych sy’n darparu gwaith crefftus gyda chyflog da.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard i gloi:

“Mae economi Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdrwy yn wynebu heriau mawr i gael adferiad o Covid-19 ac i addasu i weithrediadau “net sero”. Rydym wedi gwneud cynigion trawsnewidiol ac arloesol i ymdrin â’r heriau hyn."

"Rydym eisiau cyflawni pethau a byddwn yn gweithio'n greadigol ac yn hyblyg gyda'r ddwy lywodraeth i ddarparu buddsoddiad o amrywiol ffynonellau yn ddi-oed. Bydd hyn yn cynnwys ceisio rhywfaint o fuddsoddiad trwy ddigwyddiad cyllidol yn y dyfodol gyda darpariaeth ar gyfer y Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn yr Adolygiad Cynhwysfawr O Wariant i’w gyhoeddi yn hydref 2021."