Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith ar y gweill ar brosiect Canolfannau Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint

Published: 25/06/2021

Mae cwmni adeiladu o Ogledd Cymru wedi cychwyn gweithio ar y gyntaf o sawl ysgol i ymestyn ac ehangu’r ddarpariaeth cyn ysgol ar gyfer plant yn Sir y Fflint.

Mae Wynne Construction eisoes wedi eu penodi gan Gyngor Sir y Fflint i gynllunio ac adeiladu rhaglen waith £7.1m, fel rhan o becyn buddsoddi sy’n cynnig gofal plant blynyddoedd cynnar mewn 10 ysgol gynradd. 

Mae’r buddsoddiad hwnnw hefyd yn cynnwys gwaith ar Ganolfan Deuluoedd fodern i Dechrau'n Deg, yn ogystal â dau Brosiect Band B Ysgolion yr 21ain ganrif, yn Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti, Shotton.

Bydd hyn yn creu trosglwyddiad esmwyth rhwng y ddarpariaeth cyn ysgol a’r meithrin drwy gynnig gofal trwy’r dydd i blant tair a phedair oed, gyda llefydd ar gael i blant rhieni sy’n talu’n uniongyrchol hefyd, yn ogystal â rhai sy’n defnyddio'r 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth gofal plant am ddim a ariennir gan y llywodraeth.

Mae’r 30 awr am ddim yna hefyd yn cynnwys lleiafswm o 10 awr yr wythnos o addysg gynnar a ariennir.

Mae prosiect Ysgol Brynffordd ger Treffynnon yn dod yn ei flaen yn dda, gydag aelodau o Gyngor Sir y Fflint yn bresennol i weld y gwaith drostynt eu hunain.

Mae’r gwaith, fydd yn ymestyn dwy ran wahanol o’r ysgol, wedi ei rannu’n ddwy ran. Mae’r rhan gyntaf ar y gweill yn barod, a’r ail ran i gychwyn yn yr haf. Dylai fod wedi ei gwblhau erbyn Ionawr 2022.

Mae cyfleusterau i’r Canolfannau Blynyddoedd Cynnar newydd wedi eu cynllunio gyda chyfuniad o waith blociau a slabiau concrid parod, yn ogystal â waliau o baneli strwythur wedi eu hinsiwleiddio, a’r rheiny wedi eu dewis oherwydd eu priodweddau insiwleiddio yn ogystal â’r ffaith eu bod yn garedig wrth yr amgylchedd.

Mae’r cynllun gwaith wedi rhoi’r cyfle i Wynne Construction recriwtio aelodau newydd o staff, gan gynnwys rheolwyr safle cynorthwyol o dan oruchwyliaeth y rheolwr prosiect Mark Wilson, sydd newydd ei ddyrchafu.

Mae Marc wedi gweithio i Wynne ers pan oedd o’n 16 oed ac mae wedi rheoli nifer o safleoedd proffil uchel o’r blaen, gan gynnwys Travelodge y Rhyl ac Ysgol Penyffordd yn Sir y Fflint.

“Mae rhoi’r cyfle i weithwyr dyfu a datblygu'n broffesiynol wedi bod yn flaenoriaeth i Wynne Construction, erioed,” meddai.

“Gan fy mod wedi bod gyda’r cwmni ers i mi adael yr ysgol ac wedi cael cefnogaeth ar hyd y daith hyd at gymhwyster gradd, gallaf dystio i hynny’n bersonol.

Rydym yn falch iawn o fod wedi ein dewis gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y gwaith hwn ac edrychwn ymlaen at barhau gyda’r berthynas dda a grëwyd gyda’r cyngor dros y blynyddoedd.

Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts: 

"Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Wynne Construction ar sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn falch o fod yn gwneud hynny eto ar y prosiectau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys Ysgol Brynffordd. 

“Ar ôl eu cwblhau, bydd y cyfleusterau newydd yn cynnig gofal ac addysg well i blant Sir y Fflint, yn ogystal â chynnig cymorth ychwanegol i’w rheini.

“Byddwn yn edrych ymlaen at weld cynnydd y gwaith.”

KFP_9458.JPG

Ysgol Brynffordd a’u Pennaeth Rachel Critchell ar daith o gwmpas yr ailddatblygu, i’w gweld yma gyda, o’r chwith i’r dde: Syrfëwr Meintiau Wynne Construction Tom Hocknell; Claire Homard, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint; Damian Hughes Uwch Swyddog CSFf Cynllunio a Darparu Llefydd mewn Ysgolion; Y Cyng. Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor; Rheolwr Prosiect Wynne Mark Wilson; Rheolwr Safle Liam Jones; y Cyng. Jean Davies a Phrif Weithredwr CSFf Colin Everett.