Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwyl Gwanwyn 2014
Published: 27/05/2014
Mae pobl hyn yn Sir y Fflint wedi ysbrydoli bardd cymunedol i ysgrifennu cerdd
ar gyfer dathliad cenedlaethol o greadigrwydd i rai dros 55.
Cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ar draws Cymru yn ystod mis Mai sy’n cynnig
cyfleoedd i bobl hyn gymryd mwy o ran yn y celfyddydau yw Gwyl Gwanwyn.
Mae’r bardd Sophie McKeand wedi ysgrifennu’r gerdd Llif / Flow i adlewyrchu
Treffynnon a’r bobl hyn sy’n byw yno yn ogystal â thrai a chyrsiau o syniadau
sy’n cronni fel Ffynnon y Santes Wenffrewi. Fe’i crëwyd yn ystod gweithdai a
gynhaliwyd yn Llyfrgell Treffynnon gyda Grwp Archif Cymunedol Treffynnon a dau
grwp Addysg Oedolion a fu’n astudio barddoniaeth fel rhan o’r wyl.
Bydd Llif / Flow yn cael ei pherfformio mewn darlleniad barddoniaeth, sydd ar
agor i’r cyhoedd yn Llyfrgell Treffynnon ar ddydd Gwener 6 Mehefin am 1 y
pnawn, ynghyd â cherddi a saernïwyd gan breswylwyr o Lys Eleanor yn Shotton.
Mae grwp Shotton wedi mynychu gweithdai i fynegi mewn barddoniaeth a rhyddiaith
sut y mae adar yn gweddnewid ein bywydau, gan edrych ar farddoniaeth gan
Wallace Stevens, Gweneth Lewis a WB Yeats cyn dod o hyd i’w lleisiau eu hunain
a chreu cerddi. Ar ôl y perfformiad, bydd y darnau hyn ar ddangos yn Llyfrgell
Treffynnon.
Mae’r rhan yma o brosiect Gwanwyn wedi’i dyfeisio a’i chyd-drefnu gan Adran
Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint ac mae’n cael ei
hariannu gan Gwyl Gwanwyn/Age Concern a gan Gyngor Sir y Fflint.
Gall unrhyw un a hoffai ddod i’r darlleniadau neu sy’n chwilfrydig ynghylch
barddoniaeth gymunedol gysylltu â Beth Ditson, Swyddog Digwyddiadau Cymunedol
ar 07786 523 601 i gael mwy o wybodaeth.
Capsiwn y llun: Y bardd cymunedol Sophie McKeand sy’n perfformio ar 6 Mehefin
yn Llyfrgell Treffynnon.