Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Premiwm treth gyngor yn cael ei gynnig ar gyfer cartrefi gwag

Published: 08/02/2016

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn adolygur cynnig i gyflwyno premiwm treth gyngor ar gartrefi gwag ac ail gartrefi hirdymor o fis Ebrill 2017 ymlaen. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 bellach yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol yng Nghymru godi premiwm treth gyngor o hyd at 100% ar eiddo gwag hirdymor ac eiddo sy’n ail gartrefi / cartrefi gwyliau. Gall y Cyngor godi premiwm ar yr eiddo hyn ar unrhyw gyfradd rhwng 0% a 100%. Fodd bynnag, maen rhaid ir Cyngor benderfynu p’un a yw am gyflwyno premiwm a beth fydd ei faint 12 mis cyn i’r premiwm ddod i rym. Maer Cyngor wedi mabwysiadu polisi o beidio â darparu gostyngiad yn y dreth gyngor ar dai gwag hirdymor neu ail gartrefi ers blynyddoedd lawer. Bydd cyflwyno premiwm ar ben y dreth gyngor yn helpu i fynd ir afael ag anghenion tai lleol drwy annog perchnogion tai gwag ac ail gartrefi i ddod â’r eiddo hynny yn ôl i ddefnydd llawn. Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae angen ir Cyngor ddod o hyd i gymaint o gyfleoedd i gynyddu incwm ag sy’n bosibl er mwyn diogelu ein gwasanaethau rhag caledi. Mae hefyd yn bwysig bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod cymaint ag sy’n bosibl o’r 800 a mwy o eiddo gwag yn ein Sir yn cael eu rhoi yn ôl i ddefnydd. Maer cyngor yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i berchnogion eiddo gwag eu rhoi yn ôl i ddefnydd llawn, gan gynnwys benthyciadau a chynlluniau grant. Rydym yn cynnig premiwm o 50% ar gyfer y flwyddyn gyntaf. I gael mwy o wybodaeth am ffyrdd i helpu, gweler yr adran dai ar wefan Sir y Fflint www.siryfflint.gov.uk.