Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid pellach ar gyfer adfywio Glannau Dyfrdwy

Published: 10/02/2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1,367,000 arall i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer ei raglen adfywio yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd yr arian, or rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn cael ei ddefnyddio i wneud gwelliannau amgylcheddol pellach, gwelliannau ir rhwydwaith beicio a mesurau arbed ynni yng nghartrefi’r cyngor. Mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, sydd bellach yn cyrraedd diwedd ei hail flwyddyn, yn rhaglen adfywio flaenllaw gan Lywodraeth Cymru. Dros dair blynedd yn ôl, derbyniodd y Cyngor ychydig dros £6 miliwn ar gyfer rhaglen adfywio uchelgeisiol yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd y rhaglen yn gwella craidd Glannau Dyfrdwy ac yn ategur twf economaidd mawr sydd ar waith yn yr Ardal Fenter lle rhagwelir y bydd 7,000 o swyddi newydd yn cael eu creu. Meddai’r Cynghorydd Derek Butler sy’n gyfrifol am y Portffolio Datblygu Economaidd, Croesawir y cyhoeddiad hwn sy’n dod o ganlyniad i’r cynnydd da y maer Cyngor yn ei wneud wrth gyflwynor rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Glannau Dyfrdwy yn ganolbwynt economaidd pwysig i ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ac maer rhaglen hon yn elfen bwysig o ran hybu ffyniant y rhanbarth.