Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cadeirydd yn codi arian
Published: 28/05/2014
Mae cadeirydd Cyngor Sir y Fflint sydd ar fin gadael ei swydd, sef y Cynghorydd
Carolyn Thomas, wedi trosglwyddo arian a godwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf i
dair elusen a enwebwyd.
Rhyngddynt, derbyniodd Hosbis Nightingale House, Cancer Research UK a
Chymdeithas Cyfeillion Ysbytyr Wyddgrug £20,888.70.
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas y sieciau i gynrychiolwyr yr elusennau yn Neuadd
y Sir yn Yr Wyddgrug yn dilyn blwyddyn lwyddiannus iawn fel cadeirydd.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Rwyf wedi mwynhau’r flwyddyn yn fawr iawn ac
mae’r swm anferth o arian rwyf wedi llwyddo iw roi ir tair elusen yn
anhygoel. Rwyf mor ddiolchgar i bawb a helpodd gydar gwaith o godi arian; mae
wedi bod yn brofiad gwych.”
Pennawd y ffotograff: Y Cynghorydd Carolyn Thomas gyda chynrychiolwyr yr
elusennau.