Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cerdyn Sul y Mamau

Published: 16/02/2016

Mae Archifdy Sir y Fflint wedi creu cerdyn Sul y Mamau arbennig i gofio mam a merch enwog o Gaerwys, sef Ruth a Kitty Lewis Plas Penucha. Magwyd Ruth Lewis (1872-1946) yn Lerpwl ac yna’n Llundain, lle cafodd ei haddysg. Ar ôl priodi J. Herbert Lewis symudodd i Gaerwys a mabwysiadu Cymru fel ei gwlad a dechrau dysgu Cymraeg. Ymhen dim, roedd hi’n rhugl. Teithiodd Ruth ar hyd a lled y wlad yn casglu caneuon gwerin ac ym 1914 bu iddi gyhoeddi ei chasgliad; mae’r llyfryn ar gael a chadw heddiw yn Archifdy Sir y Fflint (D/L/816). Roedd Ruth yn frwd dros ddatganoli ac ym 1921 cafodd ei phenodi’n ynad ym Mwrdeistref Westminster yn Llundain, y ferch gyntaf i ddal y swydd honno. Ruth hefyd oedd y ferch gyntaf i gael ei phenodi’n ynad yn Sir y Fflint; a bu iddi ddal y swydd honno am bron i chwarter canrif. Roedd Alice Catherine ‘Kitty’ Lewis (1898-1984), eu hunig ferch, hefyd yn frwd dros ddatganoli ac roedd hi hefyd yn aelod o Blaid Cymru. Cafodd ei haddysg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth (1916-18) ac roedd hi’n hoff o gymryd rhan mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Hi oedd llywydd Eisteddfod Caerwys ar achlysur dathlu can mlynedd ers ei sefydlu. Meddai’r Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg “Mae Sul y Mamau yn wyl hir sefydlog. Ar un adeg hwn oedd yr unig ddiwrnod yn ystod y flwyddyn y cai merched a meibion yn y lluoedd arfog, rhai ymhell o’u cartrefi, y cyfle i ymweld â’u mamau. Mae’r llun hyfryd ar y cerdyn hwn yn portreadu’r berthynas glos rhwng mam â’i phlentyn.” Mae’r cardiau yn costio £1.50 ac ar werth yn yr Archifdy ym Mhenarlâg ac yn y siop yn Theatr Clwyd.