Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adeiladu cyfleoedd lleol

Published: 16/02/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio ar brosiect uchelgeisiol i sicrhau bod ei gartrefi yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn y flwyddyn 2020. Maer prosiect, mewn partneriaeth â chwmni adeiladu cenedlaethol Keepmoat, nid yn unig yn gwella ansawdd bywyd trigolion, ond mae hefyd yn darparu swyddi cynaliadwy i bobl leol. Cafodd Keepmoat gymorth contractwr trydanol lleol, JDE Electrical o Alltami, ac mae wedi bod yn gweithio gyda nhw dros y 4-5 mlynedd diwethaf yn ailosod ceginau ar y Rhaglen SATC yn Sir y Fflint. Mae JDE wedi gallu cyflogi pum prentis ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn. Maer cynllun SATC hefyd wedi helpu tri o weithwyr eraill gwblhau eu prentisiaethau, gyda dau ohonynt wedi mynd ymlaen i gwblhau eu cymhwyster Cynllun Hyfforddi Diogelwch Goruchwyliwr Safle (SSSTS). Mae JDE hefyd wedi recriwtio nifer o hyfforddeion syn oedolion sydd yn y broses o gwblhau prentisiaethau trydanol. Mae pob un or prentisiaid yn byw yn Sir y Fflint. Dywedodd yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai, y Cynghorydd Helen Brown, Nid yn unig ein bod yn gwella cartrefi ein tenantiaid, ond rydym hefyd yn gallu darparu cyfleoedd gwaith lleol i unigolion syn byw yn Sir y Fflint. Mae JDE yn un cwmni lleol sydd wedi elwa or Rhaglen SATC. Meddai Kris Davies, Cyfarwyddwr JDE, Rydym yn ddiolchgar i Keepmoat a Chyngor Sir y Fflint am roir cyfle i dyfu yn unol ân huchelgeisiau ni. Rydym yn gwmni lleol sydd wedi elwa o gymorth SATC Cyngor Sir y Fflint.” Mae Keepmoat wedi sicrhau contract arall ac yn parhau â’u partneriaeth gyda JDE. Dywedodd David Williams, Rheolwr Gweithrediadau / Adnewyddu a Chynaliadwyedd Keepmoat, Rydym yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle i fod yn rhan or prosiect gwych hwn. Mae SATC wedi cael effaith enfawr ar y gymuned ehangach. Drwy weithion agos gydan partneriaid ar gadwyn gyflenwi rydym wedi gallu darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant cynaliadwy ar gyfer pobl leol, gan helpu i greu cymuned ffyniannus. Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn safon ansawdd genedlaethol ar gyfer cartrefi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Maen golygu y dylai pob tenant yng Nghymru gael y cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd da syn cwrdd â gofynion y cartref. Mae Tîm Gwaith Cyfalaf Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am uwchraddio mewnol ac allanol i bob eiddo gan y cyngor, gan gydymffurfio â SATC erbyn y flwyddyn 2020. Yn y llun, or chwith ir dde, y tu blaen: Prentisiaid Ben Davies, Andy Dale, Jac Williams, Matthew Palin (yn sefyll), Calum Davies, Chris Wood, Sam Williams Yn y cefn: Julian Davies - Cyfarwyddwr JDE, Colin Welsby - Keepmoat, David Williams - Rheolwr Gweithrediadau Keepmoat, y Cyng Bernie Attridge, y Cyng Helen Brown, Shaun ODonnell - Syrfëwr Contract gyda Chyngor Sir y Fflint, Kris Davies - Cyfarwyddwr JDE a Josh Davies - Goruchwyliwr yn JDE