Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau Llwybr yr Arfordir

Published: 30/05/2014

Mae disgyblion ysgol wedi ymuno yn y dathliadau i nodi ail ben-blwydd agor Llwybr Arfordir Cymru. Aeth ceidwad yr arfordir, Karen Rippin a’r hanesydd lleol, Vicky Perfect, sydd newydd ei hethol yn Gynghorydd Sir, â disgyblion o Ysgol Uwchradd Cei Connah trwy hanes Castell Y Fflint, sy’n dirnod amlwg ar hyd rhan Sir y Fflint o’r llwybr. Buont yn cerdded ar hyd y llwybr hefyd i fwynhau’r hanes, y dreftadaeth a’r bywyd gwyllt yn yr aber a chael gwybod am hanes Doc Y Fflint. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae rhan Sir y Fflint o lwybr yr arfordir yn gyfoethog ei threftadaeth ac mae’n wych fod ein plant lleol yn dysgu am eu hamgylchoedd, yr amgylchedd ac o ble y dônt. Mae creu’r llwybr wedi bod yn gyfrifol am ddod â mwy o ymwelwyr i’r ardal ac ar ben hynny, gan fod i bob rhan o’r llwybr ei hanes ei hun, mae’n adrodd stori wych am y rhanbarth.” Cynhaliwyd y digwyddiad ar ddydd Gwener 16 Mai ac mae’n dathlu Llwybr Arfordir Cymru Gyfan - llwybr 870 o filltiroedd o amgylch arfordir cyfan Cymru a agorwyd yn swyddogol ym mis Mai 2012. Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi’i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), un deg chwech o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol. Capsiwn y llun: Disgyblion o Ysgol Uwchradd Cei Connah gyda’u hathrawes Mary Daniels yng Nghastell Y Fflint.