Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun tai Sir y Fflint yn cael ail rownd o gymeradwyaeth

Published: 25/02/2016

Mae cynlluniau Cyngor Sir y Fflint i adeiladu tai fforddiadwy newydd ledled y Sir yn bwrw ymlaen â chaniatâd cynllunio a roddwyd bellach ar gyfer 92 o gartrefi newydd yn The Walks yn y Fflint. Maer gymeradwyaeth yn dilyn cyhoeddiad Rhagfyr y bydd 12 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar safle hen Ysgol Custom House yng Nghei Connah, gan gyfrannu at darged y Cyngor i adeiladu tua 500 o gartrefi newydd yn y pum mlynedd nesaf. Gan ffurfio rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor, bydd y datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu gan eu partner tai strategol, Wates Living Space Homes. Bydd y gwaith o adeiladur cartrefi newydd yn dechrau’n ddiweddarach eleni, a fydd yn cynnwys creu 62 o dai a 30 o randai ar safle hen fflatiau deulawr The Walks. Fel rhan or prosiect, mae Wates Living Space Homes a Chyngor Sir y Fflint wedi gwneud ymrwymiad ar y cyd i greu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth leol. Amcangyfrifir y bydd dros 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi. Mae hyn yn cynnwys nifer o gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth i bobl leol drwy gydol y rhaglen SHARP yn ystod y pum mlynedd nesaf. Bydd strategaeth buddsoddi cymunedol gynhwysfawr yn cael ei rhoi ar waith a fydd yn gweld ysgolion lleol a grwpiau cymunedol yn elwa o Gronfa Cymunedau SHARP sydd i fod i gael ei lansio ym mis Mai eleni. Mae ymdrechion i ymgysylltu â chyflenwyr lleol yn y gwaith wedi cynnwys digwyddiad Cwrdd âr Prynwr ar gyfer isgontractwyr lleol, gydag amcangyfrif y bydd gwerth £40m o becynnau gwaith is-gontractio yn mynd i gwmnïau lleol. Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai: “Bydd ailddatblygu The Walks yn nodi dechrau cyfnod cyffrous iawn ir Cyngor, mewn termau ymarferol, wrth wireddu ein huchelgais sefydledig i adfywio’r safle yn dilyn dymchwel hen fflatiau deulawr y Cyngor. Bydd y cynllun newydd yn darparu tai newydd, fforddiadwy, o ansawdd uchel sydd wir eu hangen yn y Fflint.” Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Prif Gynllun y Fflint: “Ynghyd â fy nghyd gynghorwyr lleol, Alex Aldridge a David Cox, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gweledigaeth, eu sgiliau, eu hymroddiad a’u penderfyniad i yrrur cynllun yn ei flaen. Bydd y cynllun ar ôl ei gwblhau yn sicr o roi bywyd newydd i’r Fflint.” Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes: “Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint ywr cyntaf oi math yng Nghymru. Drwy arloesi cynlluniau buddsoddi tai uchelgeisiol or fath, maer Cyngor yn darparu enghraifft flaenllaw o sut y gellir goresgyn prinder tai.