Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau i Ardal Chwarae Maenor; Bagillt

Published: 29/02/2016

Ers 2010, maer awdurdod lleol wedi gweithio mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned i ddarparu rhaglen arian cyfatebol llwyddiannus sydd wedi arwain at dros £1miliwn yn cael ei fuddsoddi ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau chwarae’r sir. Ar gyfer 2015/16, roedd cyfanswm o £105,000 ar gael gan Gyngor Sir y Fflint ac maer gwelliannau diweddaraf o dan y rhaglen hon wedi eu cwblhau yn Ardal Chwarae Maenor ym Magillt, sydd wedi cael ei adnewyddu gyda £10k yn ddiweddar. Maer ardal chwarae wedi cael ei huwchraddio’n sylweddol gydag amrywiaeth o eitemau offer chwarae newydd gan gynnwys strwythur aml-chwarae newydd gyda llithren, siglenni (gan gynnwys siglen fasged), si-so, cylchfan dysgl, sponcwyr a seddau ar gyfer rhieni a gofalwyr. Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Hamdden: “Rwyf wrth fy modd gyda’r gwelliannau a wnaed ir ardal chwarae ac rwyn siwr y byddant yn boblogaidd gyda phlant lleol au teuluoedd. “Hoffwn gydnabod y gefnogaeth a chydweithrediad Cyngor Cymuned Bagillt am weithio gyda Chyngor Sir y Fflint i wneud y gwelliannau hyn oedd wirioneddol eu hangen i’r ardal chwarae yn bosibl. Mae hyn yn adlewyrchur gefnogaeth barhaus ar gyfer y rhaglen dros flynyddoedd lawer gan Gynghorau Tref a Chymuned ledled Sir y Fflint Nodyn i olygyddion Yn y llun sydd ynghlwm mae’r Cyng. Kevin Jones yn cael golwg ar Ardal Chwarae Maenor, Bagillt ar ei newydd wedd