Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ydych chin barod am yr her?

Published: 29/02/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £400k ac uwchraddior offer ymarfer corff mewn campfeydd yng Nghanolfannau Hamdden Glannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon a’r Wyddgrug. Maer campfeydd bellach yn cynnwys offer Technogym or radd flaenaf syn cynnwys melinau traed, beiciau, beiciau gorwedd, peiriant trawsymarfer, peiriannau rhwyfo ac ystod eang o offer hyfforddiant ymwrthedd a swyddogaethol syn addas i bob defnyddiwr o bob lefel gallu. Mae gan offer cardiofasgwlaidd newydd ystod gyffrous o adloniant digidol ac mae consolau Android wedi’u ffitio arnynt syn caniatáu i gwsmeriaid integreiddio hyfforddiant dan do a gaiff ei berfformio gan ddefnyddio offer campfa gyda gweithgareddau bywyd bob dydd a hyfforddiant awyr agored yn uniongyrchol drwyr ap cwmwl Technogym mywellness. Gall cwsmeriaid hefyd brofi rhyddid symudiad llwyr gydan hoffer hyfforddiant swyddogaethol ARKE ac Omnia newydd syn gallu helpu defnyddwyr i wella cydsymud, sadrwydd, cyflymder, ystwythder ac amser ymateb yn ogystal â ffitrwydd cardiofasgwlaidd ac anadlol. Maer campfeydd yng Nghanolfannau Hamdden Glannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon ar Wyddgrug hefyd yn ymuno âr her fyd-eang, ymgyrch ‘Let’s move for a better world’ syn anelu at fynd ir afael â phroblemau cynyddol gyda gordewdra a ffyrdd eisteddog o fyw ac i annog pobl i fod yn fwy gweithgar. Maer ymgyrch yn rhedeg o 1 - 19 Mawrth ar nod yw ysbrydoli aelodaur ganolfan hamdden, eu ffrindiau au teulu a chyd-ddinasyddion i roi eu gweithgaredd corfforol i ffitrwydd fel rhan o’r her. Mae safler cyfleuster yn cael ei bennu gan gyfanswm nifer y SYMUDIADAU a gasglwyd yn ystod yr ymgyrch. Mae SYMUDIADAU yn cael eu casglu gan gyfranogwyr sy’n hyfforddi ar ein hoffer cardiofasgwlaidd Technogym newydd sydd wedii gysylltu ir cwmwl mywellness trwy gysylltiad rhyngrwyd. Bydd y tri chyfleuster campfa gorau yn y DU yn ennill y cyfle i roi offer ffitrwydd Technogym i sefydliad dielw lleol yn eu cymuned. Er mwyn ymuno âr her y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud yw galw i mewn i Ganolfannau Hamdden Glannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon neur Wyddgrug i gofrestru ac rydym yn cynnig pas mynediad 7 diwrnod AM DDIM i rai nad ydynt yn aelodau syn cofrestru. Bydd hefyd gwobrau yn cael eu rhoi ar hyd y ffordd. Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet Hamdden; “Mae iechyd a lles pobl Sir y Fflint yn flaenoriaeth ir cyngor hwn ac rwyn hynod falch fod y Cyngor wedi gallu buddsoddi mewn uwchraddio cyfleusterau’r gampfa yng Nghanolfannau Hamdden Glannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon ar Wyddgrug. “Rai misoedd yn ôl gwnes ymrwymiad y byddai gwaith atgyweirio ac uwchraddio ir ardaloedd pwll nofio a goleuadau yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon yn cael ei wneud fel arwydd pellach o gefnogaeth barhaus y Cyngor ar gyfer y cyfleuster. Rwyf yn siwr y bydd staff a chwsmeriaid yn cytuno y bydd y buddsoddiad o £90k yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon yn dangos bod yr ymrwymiad hwn wedi ei wireddu.” “Rwyn siwr y bydd y cyfarpar Technogym newydd o’r radd flaenaf yn annog pobl o bob oed a gallu i gymryd her ‘Lets move for a better world’. Nodyn i olygyddion Yn y llun ynghlwm mae Kevin Jones, Aelod Cabinet Hamdden, yn y gampfa sydd wedi’i hadnewyddu yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon