Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mwy o brentisiaid lleol!

Published: 29/02/2016

Mae’r ddau brentis newydd cyntaf wedi dechrau gweithio ar brosiect yn Saltney. Maer Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu o leiaf 200 o gyfleoedd llafur lleol ac 20 o brentisiaethau drwy ei raglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2020. Maer prentisiaid, Thomas Miller a Joseph Collin, yn gweithio gyda chwmni Mitie a enillodd y contract i uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi mewn 328 o gartrefi. Roedd y ddau yn astudio plymio yng Ngholeg Cambria ac erbyn hyn maent yn ennill profiad amhrisiadwy wrth weithio ochr yn ochr â phlymwyr profiadol cwmni Mitie yn gosod ystafelloedd ymolchi a cheginau. Dywedodd Helen Brown, Aelod y Cabinet dros Dai, Maer cyfleoedd wedi cael eu gwneud yn bosibl drwy gydweithio rhwng Cyngor Sir y Fflint, Coleg Cambria a Procure Plus sy’n darparu’r fframwaith ar gyfer y prosiect. Mae’r Cyngor ar fin sefydlu ei Academi Prentisiaid ei hun a lansir fis nesaf yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaid. Mae cefnogi’r bobl ifanc hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i roi cyfle i brentisiaid lleol weithio ar y SATC a chynlluniau eraill. Rwy’n hynod falch o allu helpur bobl ifanc hyn syn cymryd eu camau cyntaf yn eu gyrfaoedd. Maer ddau brentis yn falch iawn o allu derbyn profiad mor wych. Meddai Joe, Roeddwn yn gweithio yn McDonalds ac roeddwn wedi gwneud cais am ddwsinau o swyddi heb lwyddiant, nid oeddwn hyd yn oed yn cael ateb. Rwy’n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle gwych hwn i gwblhau fy NVQ. Meddai Tom, Maer pecyn cymorth yr ydym wedi’i gael gan Procure Plus yn wych ac maer cymorth a roddir gan y tîm yno wedi bod yn ardderchog. Dywedodd Matt Jarratt, Uwch Reolwr Gweithrediadau Procure Plus, Yn gyntaf oll, mae Procure Plus yn gwmni adfywio sydd â diddordeb mewn creu swyddi ar gyfer ein cymunedau landlord. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria gan eu bod yn rhannu ein gwerthoedd ac wedi ymrwymo i gyflogi pobl leol. Meddai Craig Boath, Cyfarwyddwr busnes Northern Housing sy’n rhan o Mitie Property Management: Rydym yn ymroddedig i greu cyfleoedd ar draws ein busnes ac yn cydnabod y manteision o gydweithion agos â grwpiau cymunedol lleol a chynghorau megis Cyngor Sir y Fflint, Coleg Cambria a Procure Plus i gefnogi cynlluniau megis y prosiect SATC. Rydym hefyd yn falch iawn o fod yn un o’r cwmnïau sy’n cyflogi’r nifer fwyaf o brentisiaid yn y DU ac rydym yn anelu at gadw’r momentwm hwn am flynyddoedd lawer i ddod.