Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn ymweld ag ysgol ddarbodus Sir y Fflint

Published: 29/02/2016

Ymwelodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ag Ysgol Gwynedd yn y Fflint ddydd Llun, 29 Chwefror. Roedd yno i weld y gwaith y mae’r ysgol wedi bod yn ei wneud gyda Toyota ynglyn â “rheoli darbodus”. Mae’r Pennaeth yn Ysgol Gwynedd, Jeremy Griffiths, wedi datblygu modiwl hyfforddiant llwyddiannus, gyda Toyota, ar gyfer penaethiaid or enw Creu Diwylliant Darbodus mewn Ysgolion. Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Cynhaliwyd nifer o gyrsiau llwyddiannus hyd yn hyn, gyda dros 55 Pennaeth a 20 Dirprwy Bennaeth o Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn manteisio ar y cyfle hwn, ynghyd â nifer o Benaethiaid o rannau eraill y wlad. Mae’n gwrs deuddydd, gyda’r diwrnod cyntaf gyda Toyota i weld sut y maent wedi gweithredu’r diwylliant mewn diwydiant o’r radd flaenaf a’r ail ddiwrnod yn yr ysgol i weld sut y cymhwyswyd diwylliant darbodus yn yr amgylchedd hwn”. Dywedodd Mr Griffiths: “Dechreuodd y fenter dros bedair blynedd yn ôl pan dderbyniais y cyfle i hyfforddi fel Arbenigwr Darbodus. Roeddwn eisoes yn cymhwyso egwyddorion darbodus yn fy ysgol ac yn datblygu staff yr ysgol ond teimlwn y gallai Penaethiaid eraill elwa o’r offer a’r technegau sydd ar gael yn y diwydiant. Gwelwn yr effaith y gallai’r ymarfer hwn ei gael ar safonau ar draws cymuned yr ysgol.” Dywedodd Keith Edwards, Rheolwr Adain TLMC, yn cynrychioli Toyota: “Mae Toyota Manufacturing UK yn falch o gefnogi Ysgol Gynradd Gwynedd yn y Fflint. Mae tîm Gweithgynhyrchu Darbodus Toyota wedi mwynhau gweithio gyda’r ysgol gan eu bod mor frwdfrydig ac mae ganddynt feddwl agored ynglyn â rhoi cynnig ar syniadau newydd ac addasu technegau a feincnodwyd yn arferion gorau’r diwydiant. “Maer ysgol yn enghraifft gadarnhaol iawn or hyn y gellir ei gyflawni a dymunwn lwyddiant parhaus iddynt ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw eto yn y dyfodol. Prif nod y cwrs yw cyflwyno Egwyddorion Darbodus i’r ysgolion, sy’n gysyniad newydd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl y tu allan ir amgylchedd gweithgynhyrchu. Mewn cyfnod o galedi mae’n ffordd o leihau gwastraff ac ychwanegu gwerth i’r disgyblion trwy gynnwys cymuned yr ysgol gyfan. Roedd yn gyfle i’r ysgolion weithio gyda diwydiant gweithgynhyrchu “uwch dechnoleg” i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth or hyn y mae cyflogwr ei angen.