Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Aelodaur Cyngor yn ymweld â Llyfrgell newydd

Published: 29/02/2016

Yn ddiweddar, ymwelodd Cynghorwyr Sir y Fflint â Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i weld y canolbwynt llyfrgell newydd a agorir yn swyddogol ar 4 Mawrth, ac i archwilior gwelliannau mawr sydd wedi’u gwneud i du blaen y ganolfan hamdden. Maer canolbwynt newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £250,000 yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, gyda chyfraniadau ariannol mawr yn dod gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: Mae Canolfan Hamdden a Llyfrgell Glannau Dyfrdwy yn atyniad o bwys yn Sir y Fflint a bydd y llyfrgell newydd ynghyd âr gwelliannau mawr sydd wedi’u gwneud i du blaen yr adeilad ar dderbynfa yn sicrhau ei fod yn lle deniadol i ymweld ag ef a’i fod yn parhau i fod yn dirnod lleol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: Rydym yn falch iawn o ddweud y bydd y llyfrgell newydd yn weithredol o’r wythnos yma ymlaen. Maer llyfrgell ar gael iw defnyddio yn ystod holl oriau agor y ganolfan hamdden. Bydd mynediad ar gael at lyfrau a chyfrifiaduron drwy ddefnyddio cyfleusterau hunanwasanaeth. Maer llyfrgell wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen i foderneiddio llyfrgelloedd a’u lleoli ar y cyd â gwasanaethau eraill yn y gymuned. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Strategaeth Wastraff, Diogelur Cyhoedd a Hamdden: Bydd buddsoddiad or gronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r defnydd a wneir o’r ganolfan. Bydd blaen yr adeilad yn llawer mwy hygyrch, diogel a deniadol i fynd i mewn iddo a bydd gwell cysylltiad rhwng y dderbynfa a’r llyfrgell newydd. Mae hyn yn ymateb i adborth a gawsom gan ddefnyddwyr y ganolfan hamdden a darpar ddefnyddwyr y llyfrgell. Maer llyfrgell wedi ei lleoli wrth ymyl caffi a chyntedd y ganolfan hamdden. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Pennie Corbett, Prif Swyddog Llyfrgelloedd a’r Celfyddydau drwy anfon e-bost at pennie.corbett@flintshire.gov.uk.