Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn agor ysgol newydd or radd flaenaf sy’n werth £6.4 miliwn yn Shotton

Published: 29/02/2016

Bydd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg yn agor ysgol newydd sbon ddiweddaraf Cymru, syn werth miliynau o bunnoedd, yn Shotton heddiw (dydd Llun 29 Chwefror). Datblygiad newydd gwerth £6.4 miliwn yw Ysgol Gynradd Ty Ffynnon,  ac fei hariannwyd drwy Raglen Arian Pontio Llywodraeth Cymru. Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth, a darparwyd £4.5 miliwn or gost gan Lywodraeth Cymru. Erbyn hyn, disodlwyd rhaglen lwyddiannus  Arian Pontio Llywodraeth Cymru gan y Rhaglen Gyfalaf i sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Bydd y rhaglen ddiweddaraf hon yn cynnig buddsoddiad gwerth £1.4 biliwn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gynorthwyo ailadeiladu ac ailwampio dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru.   Maer ysgol hynod fodern hon yn cymryd lle Ysgol Fabanod Shotton ac Ysgol Iau Taliesin ac mae lle ynddi ar gyfer 245 o ddisgyblion cynradd a 30 o ddisgyblion meithrin.  Cafodd yr ysgol ei hadeiladu gan gwmni Read Construction Holdings Ltd o Wrecsam ar safler ysgol iau bresennol.  Mae naw ystafell ddosbarth yn yr adeilad newydd a dau ddosbarth adnoddau ar gyfer plant ag anawsterau dysgu cymedrol. Yn ogystal âr rhain, mae gan yr ysgol feithrinfa, neuadd, stiwdio a chegin a chyfleusterau cymunedol yn ogystal.  Bydd y tir o gwmpas yr adeilad yn cael ei dirlunio i ddarparu mannau i chwarae ac i hamddena. Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg: Maen rhoi pleser mawr i mi agor Ysgol Ty Ffynnon yn swyddogol.  Mae ysgolion fel hyn yn enghreifftiau or hyn y mae Llywodraeth Cymrun ceisioi gyflawni drwy ein rhaglenni buddsoddi, mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Rydym wedi ymroin llwyr i ddarparur amgylcheddau dysgu gorau er mwyn ysbrydoli athrawon, plant ar gymuned ehangach.   Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: Maer ysgol newydd wedi cael ei hadeiladu i safon uchel er mwyn darparu cyfleusterau modern or radd flaenaf ar cyfleoedd dysgu gorau in plant. Mae agor yr ysgol yn swyddogol yn gychwyn cyfnod newydd o ran darparu addysg o ansawdd ir sir.   Dywedodd Nia Goldsmith, y Pennaeth: Maer disgyblion mor lwcus yn cael ysgol fendigedig ar gyfer y 21ain ganrif âr dechnoleg a’r adnoddau diweddaraf un. Maer disgyblion ar staff wrth eu boddau yn cael gweithio mewn amgylchedd mor ardderchog. Dywedodd Richard Heaton, Rheolwr Gyfarwyddwr Read Construction: Maen destun balchder i Read ein bod wedi cyflawnir prosiect partneriaeth pwysig hwn a bod Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru wedi rhoi statws Enghreifftiol ir prosiect, fel model o arfer gorau.