Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Olwynion sych or diwedd

Published: 02/03/2016

Mae Peirianwyr Cyngor Sir y Fflint a swyddogion Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad wedi dod at ei gilydd i greu llwybr beicio amgen o dan Bont Penarlâg. Yn dilyn y stormydd drwg a gafwyd dros y blynyddoedd diwethaf, roedd arglawdd wedi torri a oedd yn golygu bod y llwybr beicio presennol yn gorlifo yn ystod pob llanw uchel. Gyda chyllid Llwybr Arfordir Cymru, mae £20,000 wedi cael ei sicrhau i osod llwybr arall ar ben yr arglawdd llifogydd. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd: Rwyn falch ein bod wedi gallu penodi contractwr i wellar llwybr troed ar trac beicio ger Pont Reilffordd Penarlâg yn Shotton. Maer ardal yn un boblogaidd ymysg seiclwyr a defnyddwyr llwybrau troed ond yn aml maen gorlifo yn ystod llanw uchel. Bydd y llwybr newydd yn rhoi dewis mwy diogel i ddefnyddwyr a bydd y gymuned leol ar nifer o bobl syn defnyddior llwybr hwn yn elwa. Disgwylir ir gwaith ddechrau ddydd Llun 7 Mawrth a phara pythefnos. Bydd angen cau rhan fechan or trac beicio yn ystod y cyfnod hwn, maer cyngor am sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied ag syn bosibl ar y cyhoedd tra bor gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.