Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dod o hyd ich dawn yn y Ffair Brentisiaid

Published: 08/03/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal Ffair Brentisiaid ar 16 Mawrth fel rhan o’r wythnos Prentisiaid Cenedlaethol. Mae llawer o fusnesau o Sir y Fflint a thu hwnt eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad agoriadol hwn, ond mae stondinau yn dal ar gael os oes diddordeb gan fusnesau eraill mewn bod yn bresennol. Cynhelir y digwyddiad yn Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a bydd yn cael ei gynnal mewn dwy sesiwn, un yn y bore 10:30 12 hanner dydd a 13:00 14:30. Mae 12 ysgol uwchradd Sir y Fflint wedi cytuno i ddod â disgyblion i’r ddwy sesiwn, felly bydd llawer o bobl ifanc yn awyddus i weld beth sydd gan gyflogwyr lleol iw gynnig. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, Maer Ffair Brentisiaid hon, y cyntaf oi math yn Sir y Fflint, yn gyfle gwirioneddol i brentisiaid y dyfodol gyfarfod a thrafod opsiynau gyda darpar gyflogwr. Yn ogystal â stondinau cyflogwr, bydd arddangosiadau byw a sesiynau rhyngweithiol yn ymdrin ag amrywiaeth eang o broffesiynau, gan gynnwys y gwasanaeth tân, therapi harddwch ar diwydiant adeiladu. Bydd cyfle i’r rhai sy’n bresennol Rhoi cynnig ar Grefft a chael cyngor ar ysgrifennu CV.” Am fwy o wybodaeth ac i archebu stondin, cysylltwch â Kate Catherall ar 01352 703221 neu kate.catherall@flintshire.gov.uk.