Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith adeiladu yn dechrau ar gam cyntaf rhaglen tai Sir y Fflint

Published: 14/03/2016

Gwaith adeiladu yn dechrau ar gam cyntaf rhaglen tai Sir y Fflint ?Mae datblygwr adeiladu cenedlaethol, Wates Living Space Homes, wedi dechrau adeiladu’r casgliad cyntaf o gartrefi newydd o dan Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) uchelgeisiol Cyngor Sir y Fflint. Yn 2015, fe gyhoeddwyd mai nhw oedd partner tai y cyngor, ac mae’r datblygwr bellach wedi cychwyn ar y gwaith adeiladu o greu 12 cartref newydd ar safle Hen Ysgol Custom House yng Nghei Connah. Bydd y datblygiad newydd yn rhan o gynlluniau Cyngor Sir y Fflint i adeiladu tua 500 o gartrefi newydd ar draws y sir erbyn 2020 er mwyn ateb y galw cynyddol am dai cymdeithasol a fforddiadwy. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Rhagfyr y llynedd, ac maer cartrefi newydd yng Nghei Connah wedi cael eu cynllunio i ymgorffori gwaith brics glas a nodweddion eiconig sydd wedi’u hadfer o hen adeilad Ysgol Custom House. Rhaglen SHARP flaenllaw y cyngor yw’r cyntaf oi fath yng Nghymru, a bydd yn golygu bod hyd at 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn ogystal â chreu tua 20 swydd prentis i bobl leol. Amcangyfrifir y bydd isgontractwyr Sir y Fflint yn elwa ar becynnau gwaith gwerth £40m drwy gydol y rhaglen. Daw cychwyn y gwaith yng Nghei Connah yn fuan ar ôl cyhoeddiad ym mis Chwefror bod caniatâd cynllunio wedi’i roi i adeiladu 92 o dai yn The Walks yn Y Fflint, yn rhan o raglen SHARP. Dywedodd Y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Rwyn falch iawn mai Sir y Fflint ywr Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i ddechrau rhaglen adeiladu tai cyngor. Dymar datblygiad cyntaf o dan gynlluniau SHARP uchelgeisiol y Cyngor, a gyda chaniatâd cynllunio wedi’i roi yn ddiweddar ar gyfer dros 90 o dai cyngor a fforddiadwy yn safle The Walks yn y Fflint, mae ein dyheadau bellach yn troi’n realiti. “Maer Cyngor wedi ymrwymo i fynd ir afael âr argyfwng tai yn uniongyrchol yn 2016 ac rwyn falch y bydd y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu mewn cenhedlaeth yn ein Sir, yn cael eu hadeiladu yng Nghei Connah.” Dywedodd Y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai: “Bydd adfywior safle hwn yn gwellar cyfleoedd tai sydd ar gael i bobl leol syn byw yng Nghei Connah a bydd yn nodi dechraur cyfnod cyffrous iawn dros y pum mlynedd nesaf, pan fydd tai fforddiadwy newydd sydd fawr eu hangen, yn cael eu darparu ar draws y Sir. Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes: “Mae dechraur gwaith adeiladu yn garreg filltir arwyddocaol wrth fynd ir afael â galw lleol am dai o safon uchel sy’n effeithlon o ran ynni yn Sir y Fflint. “Drwy weithion agos âr cyngor rydym yn deall arwyddocâd lleol yr hen Ysgol Custom House, ac rydym wedi cymryd camau i ddiogelu rhywfaint o nodweddion yr adeilad gwreiddiol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn, ynghyd ân hymdrechion i greu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth, yn arwain at brosiect cyffrous a fydd o fudd gwirioneddol i Sir y Fflint ar gymuned leol.” Nodyn i olygyddion Or chwith Ian Power Wates Living Space Homes, Adrian Cronin, Wates Living Space Homes, Cyng. Bernie Attridge, Cyng.r. Brian Dunn, Mick Cunningham, Wates Living Space Homes, Cyng. Helen Brown, ac Cllr. Aaron Shotton Ynglyn â Wates Living Space Wates Living Space, rhan o Grwp Wates, yw un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy a chynnal a chadwr DU. Gan weithredu ar draws y DU, mae’n canolbwyntio ar weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasau tai yn eu cymunedau lleol i adeiladu mwy o gartrefi a gwella tai presennol drwy waith cynnal a chadw cynlluniedig ac ymatebol. Mae Grwp Wates, a sefydlwyd dros 119 o flynyddoedd yn ôl, yn cyflogi tua 4,000 o bobl a gyda throsiant o dros £1 biliwn yn 2014. Grwp Wates oedd y contractwr mawr cyntaf erioed i gael ei ddyfarnu gyda Marc Cymunedol Busnes yn y Gymuned, ac yn 2013 cafodd y Wobr Busnes Cenedlaethol gyntaf am Ddinasyddiaeth Gorfforaethol, i gydnabod ei arweinyddiaeth a rhagoriaeth mewn buddsoddi yn y gymuned.