Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn symud ymlaen

Published: 18/03/2016

Maer Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda grwpiau cymunedol a phobl leol i sicrhau bod trosglwyddo asedau i gymunedau lleol yn Sir y Fflint yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy yn y tymor hir. Canolfan Bentref Gwernymynydd ywr cyfleuster diweddaraf i gael ei gymryd drosodd gan grwp cymunedol lleol, o dan gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor (CAT). Cymerodd Pwyllgor Rheoli Canolfan Bentref Gwernymynydd gyfrifoldeb ffurfiol am y ganolfan yn gynharach yr wythnos hon ar ran y gymuned, yn dilyn cwblhau cytundeb ffurfiol gydar Cyngor. Mae cyn-gyfleusterau eraill y Cyngor a drosglwyddwyd eisoes i grwpiau cymunedol o dan y cynllun CAT yn cynnwys Neuadd Bentref Carmel a chyfleusterau cyhoeddus Caerwys. Mae 103 datganiad o ddiddordeb wedi dod i law ac wediu cymeradwyo ar gyfer 208 o asedau cymunedol ers ir Cyngor ail-lansio ei gynllun CAT ym mis Tachwedd 2014. Or rhain, mae 12 cynllun busnes wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer 18 ased cymunedol gydar nod o gael rhwng 7 a 12 CAT llawn erbyn diwedd mis Mawrth 2016. Byddair CAT hyn o bosibl yn cynnwys; Canolfan Gymunedol Trelogan, Rhandiroedd Cei Connah, Man Chwarae Gwesbyr, Cofeb Ryfel Bagillt, Pwll Nofio Cei Connah a Chanolfan Gymunedol Argoed (gan gynnwys Llyfrgell Mynydd Isa). Maer arbedion a amcangyfrifir ir Cyngor o drosglwyddor asedau hyn dros £0.330 miliwn o arbedion refeniwr flwyddyn, yn ogystal ag arbediad sydd wedi’i amcangyfrif o £0.600 miliwn ar gostau cynnal a chadw. Dros y deuddeg mis nesaf, maer Cyngor yn rhagweld y gellid dyblu nifer y CAT y gellid eu cwblhau, a gall o bosibl gynnwys Canolfan Hamdden Treffynnon, Llyfrgell Yr Hob a Llyfrgell Saltney, a allai arbed £0.350 miliwn arall mewn refeniwr flwyddyn i’r Cyngor, yn ogystal â diogelu’r cyfleusterau hyn. Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet yr Amgylchedd; “Gyda chymaint o ddatganiadau o ddiddordeb ar draws ystod o asedau ac ardaloedd daearyddol, maen amlwg bod llawer o gynghorau tref a chymuned, grwpiau elusennol a chymunedol, yn gweld yr angen gwirioneddol i gymryd yr asedau hyn au rhedeg er lles eu cymunedau lleol. Rwyn hyderus y bydd y cynllun CAT yn cadw llawer mwy o asedau cymunedol a werthfawrogir yn fawr, wrth ddarparu arbedion sylweddol ir Cyngor hefyd. Hoffwn gydnabod ymrwymiad a brwdfrydedd Pwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Gwernymynydd am weithio mor galed gydar Cyngor er mwyn sicrhau dyfodol y cyfleuster gwych hwn. Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wedi cael ymateb mor gadarnhaol ir cynllun CAT gan lawer on cymunedau. Drwy ymgysylltu ân cymunedau lleol, mae’n wych cael gwych ein bod yn ymdrechu i ddod o hyd i atebion tymor hir a fydd, gobeithio, yn cynnal ein gwasanaethau a’n hasedau lleol ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer adfywio a menter gymdeithasol. Mae hyn yn gwbl hanfodol ar adeg o doriadau cyllido cenedlaethol digynsail i wasanaethau cyhoeddus. Meddai Kevin Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan Bentref: “Fel tîm rheoli, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig diogelu’r Ganolfan Bentref ar gyfer y gymuned. Mae ein hanes, yr ymrwymiad cymunedol ar ffaith fod y pwyllgor wedi’i sefydlun dda yn wreiddiol, wedi ein rhoi mewn sefyllfa dda i ddelio â chymryd y brydles drosodd. Er bod y broses hon yn gymhleth, cawsom help mawr gan swyddogion a chyfreithwyr Cyngor Sir y Fflint a wnaeth ein tywys drwy bopeth yr oeddem angen ei wneud. Rydym yn falch iawn o gymryd y brydles ac yn edrych ymlaen at sicrhau bod y Ganolfan Bentref yn cael ei defnyddio gan y gymuned am flynyddoedd i ddod.” Mae rhagor o fanylion am y cynllun CAT ar gael gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint. Gallwch gysylltu â Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint dros y ffôn ar 01352 744000 neu drwy e-bostio info@flvc.org.uk Nodyn i olygyddion Yn y llun amgaeedig (o’r chwith i’r dde) mae: Ian Bancroft, Prif Swyddog Newid Trefniadol, Kevin Hughes, Cadeirydd Pwyllgor y Ganolfan Bentref, Helen Roberts, Trysorydd Pwyllgor y Ganolfan Pentref, y Cynghorydd Nancy Matthews,