Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Modelau Darparu Amgen

Published: 18/03/2016

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn mynd trwy gyfnod cyffrous o newid. Oherwydd pwysau ariannol, lle mae gostyngiadau mewn cyllidebau yn golygu dewisiadau anodd a cholli neu leihau gwasanaethau posibl, mae modelau cyflawni amgen yn gorfod ffurfio rhan or ateb. Fel awdurdod lleol arloesol a blaengar, mae Cyngor Sir y Fflint yn arwain y ffordd trwy fynd ati i annog adrannau i dorri tir newydd ac edrych at sicrhau ein bod yn parhau i gynnal a gwella ein gwasanaethau yn y ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon posibl. Yr wythnos nesaf, bydd Cabinet Sir y Fflint yn ystyried Cynlluniau Busnes gan Hamdden a Llyfrgelloedd, Rheoli Cyfleusterau a Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith ynghylch sefydlu Modelau Darparu Amgen. Bydd y Cabinet yn trafod yr adroddiad sy’n cynnwys y materion allweddol y cytunwyd arnynt ar gyfer y Cyngor, y cynlluniau busnes gwasanaeth, a’r argymhellion i sefydlu nifer o Fodelau Darparu Amgen. Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Y rheswm allweddol rydym yn ystyried Modelau Darparu Amgen gyfer y gwasanaethau hyn yw asesu, yn wyneb heriau’r gyllideb sy’n wynebu’r gwasanaeth, os mai dymar ffordd orau ymlaen i gynnal y gwasanaeth ac i ddiogelu swyddi. Ni fydd unrhyw Fodel Darparu Amgen sefydledig yn cael ei ystyried ar wahân ir Cyngor, ond bydd yn gweithio ar y cyd gydar Cyngor i ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau allweddol. “Rydym wedi nodi arbedion sylweddol o £3 miliwn yn y gwasanaethau hyn dros gyfnod o dair blynedd. Credwn ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel cyngor i ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o ddarparu gwasanaethau - mae llawer o gynghorau eraill wedi llwyddo i weithredu modelau darparu or fath yn llwyddiannus ac mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar y cyfle hwn.” Maer argymhellion fel a ganlyn: Cytuno bod Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau yn sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol gydag eithriad TECKAL* (a elwir hefyd yn eithriad mewnol) i fasnachu a dyddiad dechrau targed y sefydliad newydd yw 1 Ebrill 2017. Cytuno bod darparu Gwasanaeth Gofal Dydd a darparu Gwasanaeth Cyfleoedd Gwaith yn cael eu comisiynu gan fudiad cymdeithasol syn gallu dangos yn glir sut y byddant yn gweithio gydar Cyngor i wneud y mwyaf o gyflawni gwerth cymdeithasol a manteision cymunedol. Y dyddiad targed ar gyfer dechrau hyn yw 1 Ebrill 2017 hefyd. Cytuno bod Hamdden a Llyfrgelloedd yn sefydlu elfen Gydfuddiannol dan Arweiniad Gweithwyr, yn dilyn pleidlais staff yn dangos cefnogaeth ar gyfer y Cynnig. Er mwyn bwrw ymlaen â hyn, byddai angen cynllun clir syn dangos sut mae gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a chysylltu’n gallu cael eu hintegreiddio au datblygun llwyddiannus. Mae ymgynghoriad cychwynnol wedi digwydd gyda staff cysylltiedig ar undebau, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y broses. * Nodyn i olygyddion: * Maer eithriad Teckal (a elwir hefyd yn eithriad mewnol) a ddatblygwyd trwy gyfraith achosion yr UE i ddarparu bod awdurdodau contractio yn gallu dyfarnu contract i endid economaidd (h.y. y cyflenwr), heb droi at drefn gaffael a reoleiddir, pan: fydd yr awdurdod contractio yn arfer rheolaeth dros yr endid economaidd hwnnw syn debyg ir hyn y maen ei arfer dros ei adrannau ei hun (a elwir yn brawf rheoli); a bod yr endid economaidd yn gwneud y rhan hanfodol oi weithgareddau gydar awdurdod contractio (a elwir yn brawf gweithrediad).