Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr Tennis

Published: 02/06/2014

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn gwobr cymdeithas tennis i gydnabod y cyfraniad a wnaed tuag at ddatblygu’r gamp yn y Sir. Mae Tennis Cymru wedi canmol adran Datblygu Chwaraeon y Cyngor am y gwaith y maent wedi’i wneud i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn tennis. Cyflwynwyd y wobr am Gyfraniad Awdurdod Lleol i’r Cyngor yng Nghanolfan Hamdden Bwcle yn ystod Penwythnos Tennis Mawr Prydain ym mis Mai, sy’n ddigwyddiad sydd wedi’i gynllunio i hybu tennis ar draws y wlad. Mae’r gweithgareddau wedi cynnwys sioe deithiol tennis i blant ysgolion cynradd; twrnameintiau tennis ysgolion cynradd ac uwchradd; cyrsiau addysg a hyfforddiant i athrawon a hyfforddwyr; sesiynau tennis cynhwysol a chreu dau glwb tennis newydd ym Mwcle a Threffynnon. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Hamdden: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi derbyn y wobr i amlygu’r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud i hybu tennis. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn dod â chymaint o fuddion ac rwyf yn gobeithio y bydd y cyrtiau a adnewyddwyd yn y Sir a’r holl weithgareddau sydd ar gynnig yn annog pobl i godi raced ac ymuno.” Meddai Peter Drew, Prif Weithredwr Tennis Cymru: “Llongyfarchiadau i Gyngor Sir y Fflint ar ennill y wobr hon, sy’n haeddiannol iawn. Mae’r Awdurdodau Lleol sy’n bartneriaid inni yn dyngedfennol i gael mwy o bobl yn chwarae ac yn mwynhau tennis yn y gymuned. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi rhoi cefnogaeth wych wrth helpu i weithredu cyfleoedd tennis newydd i’r gymuned ar draws Sir y Fflint, yn arbennig gyda’n hymgyrch i gael mwy o gyfleoedd tennis mewn Canolfannau Hamdden a Chanolfannau Cymunedol eraill. “Rydym yn gwybod bod yna nifer enfawr o bobl a fyddai’n hoffi chwarae tennis, ond nid o reidrwydd o fewn clwb tennis ffurfiol, felly mae’r gwaith y mae Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud i helpu i agor y cyfleoedd tennis newydd hyn yn wych.” Capsiwn y Llun Chwith-Dde oedolion: Matt Hayes o Gyngor Sir y Fflint, Peter Drew, Prif Weithredwr Tennis Cymru a Kathryn Rymer, Hyfforddwraig Clwb Tennis Yr Wyddgrug gyda phlant yn cymryd rhan ym Mhenwythnos Tennis Mawr Prydain.