Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint

Published: 23/03/2016

Yn chwilio am waith? Angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant? Dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghei Connah i wella eich siawns o gael gwaith. Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yn Neuadd Ddinesig Cei Connah rhwng 10am a 3pm, dydd Iau 14 Ebrill 2016. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Yn 2015, daeth 800 o bobl i’r digwyddiad hwn. Mae wedi cael ei sefydlu i gefnogi cyflogaeth yn Sir y Fflint a dod â chyfleoedd am swyddi i bobl leol gan roi cyfle i gyflogwyr gyfarfod ymgeiswyr wyneb yn wyneb. “Y llynedd roedd dros 30 o gyflogwyr a sefydliadau yn bresennol, a llwyddodd 157 o unigolion i gael gwaith.” Ar hyn o bryd, mae dros ugain o gyflogwyr lleol, gan gynnwys Ralawise, Two Sisters, Delsol a Gap Personnel wedi cadarnhau y byddant yn bresennol. Bydd cyflogwyr or sector gofal gan gynnwys Premier Homecare a CareTech wrth law i ddarparu gwybodaeth am gyfleoedd cyfredol. Cewch hefyd gymorth ymarferol i’ch helpu i ddod o hyd i waith. Mae hyn yn cynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru. Bydd cynrychiolwyr addysg bellach ac uwch hefyd ar gael i drafod opsiynau hyfforddi a chyrsiau lleol hefyd. Gall cynrychiolwyr o Glwb Menter Cymunedaun Gyntaf eich cynghori ar gyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’ch cefnogi os hoffech chi sefydlu eich busnes eich hun. Bydd Cymunedau Gwaith ac ESGYN - cynllun Llywodraeth Cymru sydd âr nod o ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth ar draws Cymru - yn gallu gwirio eich cymhwyster am gymorth ychwanegol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia neu Kate yn Cymunedau yn Gyntaf ar 01352 703024 / 01244 846090. YN GALW AR BOB CYFLOGWR LLEOL!!! A oes gennych chi unrhyw swyddi gwag ond nid oes modd i chi ddod i’r digwyddiad? Gall Canolfan Byd Gwaith hyrwyddo eich swyddi gwag ar eich rhan? Os hoffech chi fanteisio ar y gwasanaeth hwn, cysylltwch â Paul Murphy yng Nghanolfan Byd Gwaith ar 07748881647.