Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfnod cyffrous i fusnesau’r Fflint

Published: 30/03/2016

Rhoddwyd y cyfle i fusnesau lleol yn y Fflint drafod cynlluniau i adeiladu cymysgedd o dai cyngor a thai fforddiadwy ar safle The Walks, mewn Digwyddiad Ymgysylltu a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant ar Stryd yr Eglwys. Roedd cynrychiolwyr y partneriaid datblygu, Cyngor Sir y Fflint a Wates Living Space Homes wrth law i gynnig cyngor a gwybodaeth am y datblygiad, a fydd yn rhan o Bartneriaeth Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) ar draws Sir y Fflint. Rhagwelir y bydd SHARP yn cynhyrchu budd gwerth dros £60 miliwn i economir sir dros y 5 mlynedd nesaf. Mae hefyd disgwyl ir bartneriaeth gynhyrchu tua 2,000 o gyfleoedd gwaith a nifer o fentrau hyfforddi ar gyfer pobl ddi-waith lleol. Er mwyn helpu i ysgogi gwariant gyda busnesau’r stryd fawr, maer bartneriaeth yn lansior Cynllun Siopwyr SHARP. Bydd Gweithwyr ar brosiectau SHARP yn derbyn cardiau ffyddlondeb ac mae cynlluniau i ddarparu cynllun gwobrwyo tebyg ar gyfer preswylwyr syn symud i mewn ir fflatiau newydd. Mae datblygiad The Walks yn cael ei ddatblygu ar yr un pryd â dau brosiect cyffrous arall i symud canol Tref y Fflint yn ei flaen; datblygu canolfan iechyd newydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar y cyd â Read Construction a datblygu cyfleuster gofal ychwanegol newydd gan Pennaf ar y cyd ag Anwyl. Roedd cynrychiolwyr o Pennaf, Read Construction ac Anwyl hefyd wrth law yn y digwyddiad i gynorthwyo gyda gwybodaeth a chyngor. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn awyddus i weithio gyda busnesau lleol er mwyn lleihaur aflonyddu ar eu masnachu a gweithgareddau gweithredol yn ystod y gwaith o ddatblygu The Walks, y cyfleuster gofal ychwanegol newydd ar ganolfan iechyd newydd. “Bydd y datblygiadau mawr hyn yn gweddnewid canol tref y Fflint yn y misoedd nesaf, a bydd yn sicr yn cynnig llawer o gyfleoedd busnes i fasnachwyr a darparwyr gwasanaethau lleol i’w harchwilio. Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes: “Mae Wates Living Space Homes yn hynod falch o fod yn cefnogi adfywiad canol tref y Fflint. Agwedd graidd ein dull cyflenwi yw ymgysylltu â busnesau a chyflenwyr lleol, i wneud y mwyaf o’r budd economaidd i gymunedau lleol. Bydd gan y Cynllun Siopwyr SHARP newydd ran bwysig o ran annog gwariant lleol ac rydym yn llwyr gefnogol ir fenter. “Drwy gydol y rhaglen SHARP, amcangyfrifir y bydd isgontractwyr sydd wedi’u lleoli yn Sir y Fflint yn cael mynediad at werth £40m o becynnau gwaith. Bydd y lefel sylweddol hwn o fuddsoddiad yn creu nifer o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol a byddwn yn gweithion agos gydar Cyngor i nodi ffyrdd y gallwn helpu busnesau lleol i dyfu, yn ystod ac ar ôl y gwaith adeiladu.” Os ydych yn rhedeg busnes yn y Fflint ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Kate Catherall ar 01352 703221 Nodyn i olygyddion Yn y llun ynghlwm mae (chwith ir dde):: Kate Catherall, Ymgynghorydd Busnes, Cyngor Sir y Fflint, James Russell o The Old Court House Cafe a Mick Cunningham, Rheolwr Prosiect, Wates Living Space Homes.