Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau Taclusaf yn ôl oherwydd galw mawr

Published: 31/03/2016

Mae Cystadleuaeth Cymunedau Taclusaf eleni, a drefnwyd gan Gyngor Sir y Fflint, yn draddodiad syn mynd yn ôl bron i ugain mlynedd. Maer gystadleuaeth hynod boblogaidd hon wedi tyfu a datblygu - lle roedd unwaith yn canolbwyntio ar flodau hardd, mae bellach hefyd yn annog tyfu planhigion a blodau syn helpur amgylchedd ac annog bywyd gwyllt. Mae paratoadau ar y gweill eisoes ac mae cymunedau yn cael eu hannog i roi cynnig ar un or pum categori: · Pentref / Cymuned Taclusaf â llai na 1,000 o boblogaeth · Pentref / Cymuned Taclusaf â dros 1,000 a llai na 5,000 o boblogaeth · Canol Tref Taclusaf (dros 5,000 o boblogaeth) · Stâd Henoed Taclusaf · Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf Dywedodd Cadeirydd presennol y Cyngor, y Cynghorydd Ray Hughes, a gynhaliodd seremoni wobrwyo’r llynedd ym mis Medi: “Maer gystadleuaeth hon wedi mynd o nerth i nerth, yn enwedig gyda chystadleuwyr o ysgolion ac yn yr adran bywyd gwyllt / gardd gymunedol. Maer Cyngor yn falch iawn i hwylusor digwyddiad hwn, ond ni fyddain bosibl heb haelioni ein noddwyr gan gynnwys Airbus, Toyota, Clwyd Alyn, Grwp Cynefin a Warwick Chemicals. Wrth ir gystadleuaeth dyfu, rydym yn chwilio am noddwyr eraill i helpu i sicrhau dyfodol y digwyddiad poblogaidd hwn, gallai hyd yn oed rhodd o £100 wneud gwahaniaeth anhygoel i un on cymunedau lleol.” Y nod yw annog cymaint o bobl o bob oedran i gymryd rhan mewn gwella eu hamgylchedd lleol. Mae digwyddiadau blaenorol wedi dangos bod y gystadleuaeth yn dod â phobl at ei gilydd ac yn cyfrannu at wneud Sir y Fflint yn lle gwell i fyw a gweithio. Dywedodd Martin Fry, Arbenigwr o Toyota: “Yn Toyota, rydym wedi ymrwymo i weithio gydar cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt a lle mae ein haelodau au teuluoedd yn byw, a’u gwella. Rydym wedi cefnogir gystadleuaeth hon am flynyddoedd lawer ac yn parhau i wneud hynny. Maer gystadleuaeth yn enghraifft ardderchog o’r effaith y gallwn ni i gyd ei chael o fewn ein cymunedau lleol trwy ymuno i gymryd rhan. “Mae cyfranogiad cymaint o grwpiau ac unigolion i wella eu hardal eu hunain yn ganmoladwy iawn. Mae’n anodd i ddigwyddiadau fel hwn oroesi heb nawdd allanol, mae Toyota yn hapus i fod yn gysylltiedig âr digwyddiad llwyddiannus iawn hwn.” Meddai, Steve Thomas Swyddog Gweithredol Materion Llywodraeth Airbus: “Mae Airbus yn cefnogi llawer o weithgareddau yn y gymuned leol, ond rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi cyfleoedd syn helpur gymuned leol i gymryd rhan weithredol i wellar amgylchedd lleol, a dyna pam rydym yn falch iawn i gefnogir gystadleuaeth hon. “Mae’r beirniaid yn dweud bod y safonau yn y gystadleuaeth yn dal i gynyddu, gymaint felly fel eu bod yn cael anhawster dewis enillwyr - mae’r ymdrech, ysbryd cymunedol a balchder yn ein pentrefi lleol y mae’r digwyddiad hwn yn ei ennyn yn aruthrol.” Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, nid ywn rhy hwyr i gofrestru - y dyddiad cau yw 27 Mai 2016. A oes gennych ardal yr hoffech ei gwella ond ddim yn gwybod lle i ddechrau - peidiwch â phoeni, mae help wrth law. Gallwch gysylltu âch cyngor tref neu gymuned leol, eich Cydlynydd Gwasanaethau Stryd lleol ar 01352 701234 neu Jan Kelly ar 01352 702301 neu JanetKelly@flintshire.gov.uk. Yn yr un modd, os ydych yn fusnes sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gyda nawdd, waeth pa mor fach, cysylltwch â Jan am fwy o fanylion. Bydd unrhyw gyfraniad yn helpu i sicrhau y gall y gystadleuaeth hon barhau a thyfu. Bydd noddwyr yn cael eu cydnabod ar ddeunydd cyhoeddusrwydd ac yn cael eu gwahodd i gyflwyno gwobrau yn y Noson Wobrwyo a gynhelir yn Neuadd y Sir ddydd Gwener, 9 Medi 2016.