Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Deall arferion ailgylchu

Published: 05/04/2016

Gofynnir i Gynghorwyr Sir y Fflint, Cynghorau Tref a Chymuned, trigolion a defnyddwyr gwasanaeth gymryd rhan mewn arolwg dros yr wythnosau nesaf, i helpur Cyngor i ddeall anghenion lleol, fel y gellir cynnal adolygiad llawn o Gasglu Gwastraff, Ailgylchu Gwastraff y Cartref a Pholisi Safleoedd Banciau Ailgylchu. Maer adolygiad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni targedau ailgylchu statudol heriol yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Strategaeth Wastraff: “Wrth ddiolch in trigolion am eu cefnogaeth barhaus, drwy ddewis ailgylchu mwy, gallwn ni i gyd helpu i wneud Sir y Fflint yn lanach ac yn wyrddach, gan arbed £1,330,000 bob blwyddyn - arian y gellid ei wario ar wasanaethau hanfodol eraill o amgylch y sir. “Rydym bellach yn ailgylchu dros 58% o wastraff, ond maen rhaid i ni wneud mwy. Maen rhaid i bob Cyngor yng Nghymru ailgylchu o leiaf 70% ou gwastraff erbyn 2025. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ailgylchu mwy heddiw er mwyn sicrhau y gallwn leihau ein costau tirlenwi ac osgoi dirwyon sylweddol am beidio ailgylchu digon yn y dyfodol. “Hoffem wybod mwy am arferion ailgylchu cartref, fel y gallwn ddod o hyd i ffyrdd o helpu pobl i ailgylchu mwy.” Mae gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr arolwg ar gael ar wefan y Cyngor www.siryfflint.gov.uk/AilgylchuMwy Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 29 Ebrill.