Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gwella 2016-17

Published: 14/04/2016

Bydd drafft o Gynllun Gwella blynyddol Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 19 Ebrill. Bydd y Cynllun Gwella terfynol ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Mehefin ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir. Maen cryfhau llwyddiannau blynyddoedd blaenorol ac yn parhau cynnydd cryf cynllun hirdymor y Cyngor. Mae’r cynllun wedi’i rannun wyth prif flaenoriaeth sef Yr Amgylchedd, Tai, Byw yn Dda, Tlodi, Economi a Menter, Sgiliau a Dysgu, Cymunedau Diogel a Chyngor Modern ac Effeithlon ac mae’n helpur sefydliad i gyrraedd targedau i ddatblygur meysydd hyn. Hefyd mae adran newydd o fewn pob is-flaenoriaeth syn ymdrin â materion cenedlaethol a allai effeithio ar allu’r Cyngor i gyflawni’r blaenoriaethau. Uchafbwyntiau o gynllun 2015-16: · Mae’r gwaith o adeiladu prosiectau Moderneiddio Ysgolion yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yng Nghei Connah a Champws Dysgu Threffynnon yn datblygu’n dda ac mae disgwyl iddynt agor eu drysau ym mis Medi eleni. · Mae 39 eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnodau hir yn cael eu defnyddio eto o ganlyniad i gyllid gan Gynlluniau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (24) a Throi Tain Gartrefi (15) gan Lywodraeth Cymru. · Mae gwaith wedi dechrau ar y Cartref Gofal Ychwanegol yn y Fflint. · Cefnogaeth barhaus i bobl ifanc sydd, neu sydd mewn perygl o fod yn NEET drwyr Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. · Mae’r Fflint a Bwcle yn cael ei cydnabod gan y Gymdeithas Alzheimer fel cymunedau syn gyfeillgar i ddementia. Dyma’r trefi cyntaf yng ngogledd Cymru i dderbyn achrediad tebyg. · Cymeradwyo cynlluniau tai fforddiadwy yn The Walks, Y Fflint a safle hen Ysgol Custom House Lane, Cei Connah – mae gwaith bellach wedi dechrau ar y cynlluniau hyn. · Mae cwmni tai y Cyngor, NEW Homes Ltd, yn mynd o nerth i nerth ac yn ddiweddar mae wedi croesawu ei 50fed tenant. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: Maer Cynllun Gwella yn nodi prif flaenoriaethau’r Cyngor lle’r ydym yn anelu at wella bywydau trigolion. Mae rhai on blaenoriaethau yn 2016-17 yn cynnwys cynyddu nifer y tai fforddiadwy newydd a gostwng nifer yr eiddo gwag yn y Sir; parhau â’n gwaith i wneud defnydd mwy effeithlon o gyllid addysg sydd ar gael; cynyddu nifer y prentisiaethau sydd ar gael; meithrin ymwybyddiaeth bellach o ddementia; rhoi cyngor a chefnogaeth i helpu pobl i warchod eu hincwm yn ystod cyfnod o newidiadau cenedlaethol ir system les a helpu i ddatblygu mathau newydd o fusnesau lleol yn Sir y Fflint. Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr: Maer cynllun wedi cael ei adnewyddu ai ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Maer Cyngor yn gwneud cynnydd mewn meysydd a amlygwyd fel blaenoriaethau. Mae rhai prosiectau wedi gorffen, ac mae rhai yn dal ar y gweill a bydd y rheiny’n symud i mewn i’r flwyddyn nesaf, ond y peth pwysig yw fod Sir y Fflint yn parhau i gyrraedd a rhagori ar ei dargedau ac yn pennu blaenoriaethau newydd i ddatblygu perfformiad y Cyngor bob blwyddyn.