Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cau ffordd yn Queensferry

Published: 20/04/2016

Hoffai Cyngor Sir y Fflint hysbysu preswylwyr a busnesau lleol oi fwriad i gaur ffordd gerbydau gylchredol ar y gylchfan uchod. Bydd caur ffordd yn galluogir contractwr i gwblhaur gwaith terfynol i roi wyneb newydd ar y ffordd yn ddiogel ac mewn cyn lleied o amser ag syn bosibl a bydd y gylchfan ar gau dros nos 4 Mai ac eto nos Wener 6 Mai tan fore Llun 9 Mai. Bydd arwyddion yn dangos y ffyrdd eraill a fydd ar gael i gerbydau tra bor gwaith yn mynd rhagddo ac maer manylion ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint ar 28 Ebrill. Bydd y Cyngor yn cynnal digwyddiad gwybodaeth ar 28 Ebrill fel bo modd i breswylwyr a busnesau yn yr ardal ganfod mwy o am y gwaith ar ffyrdd eraill a fydd ar gael i gerbydau. Bydd aelodau or tîm prosiect ar gael yn y sesiwn i drafod y cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau unigol am y cynigion. Cynhelir y digwyddiad hwn yn Sefydliad Coffar Rhyfel Queensferry ar 28 Ebrill 2016 o 1pm tan 6pm. Gwahoddir preswylwyr a busnesau lleol i fynychu. Maer Cyngor yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw oedi ac aflonyddwch a achosir gan y gwaith, fodd bynnag bydd mynediad ar gael i fusnesau ac eiddo yn yr ardal bob amser tra bor gwaith yn mynd rhagddo.