Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru eich angen chi!

Published: 05/05/2016

Dynar alwad gan wefan newydd a lansiwyd gan dimau maethu cynghorau lleol y mis hwn. Mae timau maethu ledled Gogledd Cymru yn gweithio i annog mwy o bobl leol i faethu plant yng Ngogledd Cymru, yn enwedig plant dros 10 oed ac maen nhw eisiau i chi ymweld âr wefan newydd. Gyda dros 400 o ofalwyr maeth yng Ngogledd Cymru, mae Sir y Fflint yn gweithio gydar pum cyngor arall yn yr ardal i ddarparu gofal i dros 1,000 o blant a phobl ifanc syn derbyn gofal. Bob 20 munud ar draws y DU, mae plentyn yn mynd i ofal ac angen teulu maeth, ac nid oes gennym ddigon o ofalwyr maeth yng Ngogledd Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae angen gofalwyr maeth da i wneud gwahaniaeth i ddyfodol plant au cyfleoedd mewn bywyd. Rydym angen pobl leol a all ddarparu amgylchedd teuluol diogel, gofalgar a llawn maeth lle gall plant ddatblygu a ffynnu, a chyrraedd eu llawn botensial. “Nid yw gofalwyr maeth ar eu pen eu hunain. Mae timau profiadol yn gweithio gyda theuluoedd maeth i ddarparur cymorth sydd ei angen i helpu gofalwyr drwyr cyfnodau anodd ac helpu plant i oresgyn y trawma maen nhw wedi’i gael yn gynharach yn eu bywyd. Efallai bod y meini prawf i fod yn ofalwr maeth yn fwy agored nag y tybiwch. Mae llawer o bobl yn ystyried na fyddent yn cael eu derbyn i faethu, ond byddem yn eu hannog i siarad â ni cyn rhoir gorau i’r syniad. Nid oes cyfyngiad ar oed ac nid oes angen unrhyw gymwysterau. Gallwch fod yn sengl. Gallwch weithio yn ogystal â maethu. Byddwch angen ystafell wely sbâr. Mae gwahanol fathau o faethu syn addas i chi ach teulu. Y peth pwysicaf yw eich bod yn gallu treulio amser gyda phlant, gwrando a chynnig sefydlogrwydd, hyd yn oed pan fydd pethaun mynd yn anodd. I unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod i wybod mwy am faethu, ewch i www.maethugogleddcymru.gov.uk/cy/home.aspx