Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno Medalaur Ymerodraeth Brydeinig

Published: 12/05/2016

Mae Medalau’r Ymerodraeth Brydeinig wedi’u cyflwyno i ddau unigolyn o Sir y Fflint a Sir Ddinbych, gan gydnabod eu cyfraniadau anhygoel i’r ardal – a rhyngddynt maent wedi cyfrannu dros 55 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol. Cyflwynwyd y fedal i Elizabeth Hewitt o Sir y Fflint am yr amser y mae hi wedi’i roi i filoedd o blant yn ei gofal. Yn ei rôl fel llywodraethwr ysgol mae wedi cynorthwyo i arwain cynnydd disgyblion mewn dwy ysgol gynradd a chynorthwyo i uno’r ddwy ysgol yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hi wedi cyfrannu ar lefel sylfaenol, gyda phlant, mewn cylch chwarae, ysgol, geidiaid ar eglwys. Fel arweinydd y geidiaid, cynhaliodd y sesiynau wythnosol fel Capten, gan gymryd rhan mewn nifer o deithiau ac annog y geidiaid i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. Mae wedi rhedeg clwb y tu allan i oriau ysgol Little Rascals am 20 mlynedd ac mae’r rhieni a’r plant yn ei chanmol yn arw. Mae ei gwaith gyda’r clwb wedi’i gydnabod gan y corff arolygu AGGCC. Mae hi hefyd wedi rhoi o’i hamser fel cymhorthydd bugeiliol yn y gymuned, mae’n ymweld â phobl sy’n wael ac yn cadw cwmni i rai sy’n methu gadael eu cartref ynghyd â chynnal Cinio Cawl a Phwdin misol yn Eglwys Sant Deiniol. Fel aelod o Undeb y Mamau mae hi’n llysgennad perffaith. Mae ganddi amser ar gyfer pobl, ac ni fyddai’n oedi cyn rhoi cymorth i eraill unrhyw bryd yn ystod y dydd neu’r nos – mae pawb syn ei hadnabod yn ei charu ai pharchu. Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Edward Watkin Evans o Sir Ddinbych am wasanaethau gwirfoddol ac elusennol. Mae ei brofiadau pan yn ifanc yn y Llynges Fasnachol yn ystod yr 1930au ac 1940au wedii gymell i gynorthwyo eraill, rhywbeth y mae wedii gyflawnin sylweddol yn ystod y 35 mlynedd ddiwethaf o wasanaethau gwirfoddol anhunanol. Ymunodd Mr Evans â’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn 1980 yng Nghangen leol Rhuthun a’r Rhanbarth, yn gyntaf fel casglwr pabi ac yn 1984 fel Trefnydd Apêl Pabir Gangen (swydd a gadwodd hyd 2012). Yn ystod y cyfnod, tyfodd Apêl y Pabi o £7519 i £15358. Yn 2003, yn ogystal â’i rôl yn Rhuthun, daeth yn Drefnydd Apêl y Pabi ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru. Ers hynny, oherwydd ei frwdfrydedd a’i gymhelliant, mae Apêl Rhanbarthol y Pabi wedi cynyddu o £230.000 i dros £430,000 y llynedd. Drwy gydol ei fywyd, mae Ted wedi mwynhau cynorthwyo pobl o bob oed, ac yntau’n 93 mlwydd oed yn awr mae’n parhau i wasanaethu ei gymuned leol. Cynhaliwyd y seremoni yn ddiweddar yng Nghastell Bodelwyddan ac roedd Arglwydd Raglaw Clwyd, Henry George Fetherstonhaugh, Esq, OBE yn cyflwyno’r medalau, ac fe ddywedodd: “Roedd y seremoni yn achlysur arbennig iawn ac roedd yn bleser mawr cyflwyno Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i’r derbynyddion haeddiannol hyn. Mae darparu dros 55 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol rhyngddynt yn gyflawniad anhygoel. Hoffwn longyfarch y ddau ohonynt a diolch iddynt am eu cyfraniad sylweddol i’w cymunedau.” Mynychodd y ddau dderbynnydd gyda’u teuluoedd ac roedd y Dirprwy Raglaw Lloyd Fitzhough a’r Cadét Rhaglaw, Kara Morris yn bresennol gyda’r Arglwydd Raglaw.