Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Nodwch ddyddiad yr Wyl Oleuni

Published: 04/05/2016

Yn dilyn llwyddiant yr Wyl Oleuni yn 2013, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal y digwyddiad ysbrydoledig unwaith eto ym mis Hydref eleni. Cynhelir y digwyddiad yn ac o amgylch ardaloedd arfordirol Maes Glas a bydd yr orymdaith yn gorffen yn lleoliad hardd Abaty Dinas Basing ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Bydd yr wyl deuluol hon yn digwydd yn ystod y prynhawn a gyda’r nos ddydd Sadwrn 15 Hydref a’i nod yw dod â chymunedau arfordirol Talacre, Maes Glas a Bagillt a’u cysylltiadau hanesyddol ag Afon Dyfrdwy at ei gilydd. Themar wyl fydd Or Ddyfrdwy ir Môr a bydd yn canolbwyntio ar straeon, mythau a chwedlau cymunedau arfordirol Sir y Fflint yn ogystal âu treftadaeth a’u diwylliant cyfoethog. Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell: Maen mynd i fod yn ddigwyddiad gwych - hyd yn oed yn fwy nar un a gynhaliwyd yn 2013, felly gofalwch eich bod yn gwneud nodyn yn eich calendrau i ddod draw. Yn ystod y misoedd yn arwain at yr wyl, bydd gweithdai amrywiol yn cael eu cynnal gydag ysgolion a chymunedau arfordirol lleol i ddylunio llusernau, creu cerddoriaeth a choreograffu darnau dawns gydag artistiaid proffesiynol or ardal leol. Bydd hyn yn arwain at berfformiadau yn ystod yr wyl deuluol wych hon ar 15 Hydref a fydd hefyd yn cynnwys prynhawn o weithgareddau megis gweithdai offerynnau taro a gweithdai llusernau. Maer wyl yn cael ei threfnu gan adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint gyda chymorth ariannol gan y Gronfa Cymunedau Arfordirol a Cadw. Ariennir y Gronfa Cymunedau Arfordirol gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau morol Ystâd y Goron. Maen cael ei ddarparu gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Edrychwch allan am fwy o wybodaeth am y gweithdai a gynhelir yn y misoedd nesaf. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwenno Eleri Jones ar 01352 702471.