Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi cynlluniau i adeiladu tai Cyngor newydd

Published: 04/06/2014

Mae 25 mlynedd wedi bod ers i Gyngor Sir y Fflint adeiladu ei dy cyngor diwethaf ond wrth i system cymhorthdal tai ddod i ben, mae cynlluniau yn eu lle i’r cyfnod nesaf o gartrefi i gael eu datblygu. Mae Cynigion i roi terfyn ar system gymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai Cymru yn golygu bod y Cyngor bellach yn bwriadu adeiladu tua 100 o dai cyngor dros y chwe blynedd nesaf. Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol i ddosbarthur refeniw rhent a dderbyniwyd gan gynghorau lleol yn deg fel bod rhenti a delir gan denantiaid ar draws y DU yn dal yn gymharol, ond arweiniodd y cynllun at lawer o gynghorau mewn cymhorthdal negyddol, heb gynnig unrhyw gymhellion i adeiladu tai newydd. Cymru oedd y lle olaf yn y DU i weithredur system gymhorthdal a ddiddymwyd ar ddiwedd y llynedd yn dilyn trafodaethau llwyddiannus rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys y DU. Gall arbedion a wneir yn awr gael eu defnyddio i fuddsoddi yn y stoc dai. Bydd gan awdurdodau lleol fwy iw wario ar sicrhau bod eu cartrefi yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a gallant ddewis adeiladu tai newydd. Bydd datblygiadau tai yn cael eu hystyried mewn gwahanol leoliadau ar draws y Sir gan ddefnyddio tir syn eiddo i Gyngor Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn agos at wireddu ein gweledigaeth i ddechrau adeiladu tai Cyngor unwaith eto a darparu cartrefi Cyngor newydd ar gyfer yr 21ain ganrif i breswylwyr, bydd hyn hefyd yn helpur Cyngor i gwrdd âr angen cynyddol am dai cymdeithasol yn y sir. Mae rhaglen o adeiladu tai Cyngor yn Sir y Fflint yn ddyledus ers tro ac rwyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn arwain y ffordd yng Ngogledd Cymru drwy fuddsoddi yn ein stoc tai, sydd o fudd i denantiaid a chenedlaethau i ddod. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ir Cyngor ai holl denantiaid. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai: “Ni adeiladwyd ty cyngor newydd yn Sir y Fflint ers y 90au cynnar ac rwyn edrych ymlaen at weld cynlluniau ar gyfer y cartrefi newydd. Bydd tenantiaid yn elwa o rai datblygiadau gwych a dim ond ailddatgan ein hymrwymiad fel cyngor i gwrdd ag anghenion tai fforddiadwy trigolion lleol mae’r cynlluniau hyn.”