Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgyrch tacluso traethau

Published: 11/05/2016

Trefnodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint ymgyrch tacluso traethau ar y cyd â Chadw Cymru’n Daclus ar 27 Ebrill. Roedd hyn yn rhan o’r Wythnos Arfordir Glân a drefnwyd am y bedwaredd flwyddyn gan Cadw Cymru’n Daclus ac a noddwyd gan McDonald’s. Daeth dros 20 o wirfoddolwyr, gan gynnwys staff McDonalds a’r Cyngor, at ei gilydd i gasglu llond 15 bag o sbwriel mewn dwy awr ar hyd rhan o’r traeth a’r twyni tywod yn Nhalacre a Presthaven Sands. Treuliodd gwirfoddolwyr amser yn cyfrif ac yn chwistrellu baw ci ar yr un traeth. Mewn llai na 5 awr, chwistrellwyd 307 darn o faw ci. Gwnaed hyd i dynnu sylw at y broblem ac i geisio newid agweddau. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Mae Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o fentrau fel hyn. Mae’n hanfodol bwysig cadw’n traethau a safleoedd poblogaidd yn daclus ac i sicrhau nad yw sbwriel a baw ci yn eu difetha a hynny nid yn unig er mwyn denu ymwelwyr i’r ardal hardd ond hefyd i’w cadw’n lân ar gyfer ein trigolion lleol. Cafodd ein swyddogion gyfle i siarad â phobl am y problemau hyn a daeth aelodau o’r tîm Gwasanaethau Stryd i gasglu’r bagiau o sbwriel.” Dywedodd Tim Johnson, un o Geidwaid Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint: “Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr. Daeth pobl at ei gilydd i wneud gwahaniaeth. Mae angen i bobl fod yn ymwybodol o’r problemau y mae baw ci yn ei achosi os na chaiff ei glirio, felly byddwn yn awr yn ehangu’r gwaith i safleoedd eraill.”