Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cadeirydd yn hel pres

Published: 13/05/2016

Mae Cadeirydd ymadawol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes ai Gymar, Mrs Gwenda Hughes, wedi cyflwyno eu helusennau dewisol â sieciau gwerth cyfanswm o £19,000 yn ddiweddar. Ers ei ethol fis Mai diwethaf, mae’r Cynghorydd Hughes wedi cefnogi Cwn Tywys y Deillion (ardal yr Wyddgrug), Ysgol Farchogaeth Arbennig Clwyd a Hosbis Tyr Eos (cangen Coed-llai). Cyflwynodd y Cyng Hughes gynrychiolwyr or tair elusen gyda sieciau o £5,000 yr un yn Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug, gan ddod â blwyddyn lwyddiannus iawn fel cadeirydd i ben. Bydd gweddill yr arian yn cael ei rannu rhwng sefydliadau eraill. Dywedodd y Cyng. Hughes: Mae Gwenda a minnau wedi cael blwyddyn wirioneddol wych ac maen anrhydedd i gynrychioli’r Sir rydym yn garu. Yr wyf yn wir yn falch ein bod yn codi cymaint o arian ar gyfer ein elusennau dewisol. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth wych yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd ac rwyn dymuno blwyddyn lwyddiannus ir Cadeirydd newydd, y Cyng. Peter Curtis.