Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


New Chairman

Published: 12/05/2016

Dydd Mawrth 10 Mai, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ethol y Cynghorydd Peter Curtis fel Cadeirydd. Mae’r Cynghorydd Curtis yn cynrychioli Canol Treffynnon ac wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers 1995. Ef oedd Cadeirydd y Cyngor yn 2005/6. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Tref Treffynnon, gan wasanaethu fel Maer dair gwaith. Mae’r Cynghorydd Curtis yn byw yn Nhreffynnon ac yn briod i Jenny ac mae ganddo ddau o blant. Yr Is-Gadeirydd am y 12 mis nesaf fydd y Cynghorydd Brian Lloyd syn cynrychioli Gorllewin yr Wyddgrug. Mae’r Cynghorydd Lloyd wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers mis Mai 2012. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Gyngor Tref yr Wyddgrug ers 2009 a gwasanaethodd fel Maer yn 2015/16. Mae’r Cynghorydd Lloyd yn byw yn yr Wyddgrug.