Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cabinet i ystyried adroddiad Rheoli Fflyd

Published: 16/05/2016

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad yn argymell newid i reolaeth fflyd cerbydau’r Sir pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf. Maer adroddiad yn argymell bod contract 7 mlynedd yn cael ei ddyfarnu i Essential Fleet Services (EFS) i gyflenwi, rheoli a chynnal y fflyd cerbydau cyfan, tran cadwr staff gweithdy mewnol a fydd yn cynnal y gweithgareddau cynnal a chadw ar ran y contractwr. Maer argymhelliad hwn yn dod ar gefn cyfnod ymgynghori helaeth ac ar ôl cyfnod tendro estynedig a oedd yn caniatáu ir Cyngor weithio gydar cwmni ar nifer o faterion i sicrhau bod y fargen orau wedi’i chyflawni. Mae hyn yn enghraifft arall o Gyngor Sir y Fflint yn bod mor effeithlon a modern yn ei arferion gwaith ag y bo modd er mwyn arbed arian i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Mae yna nifer o fanteision i’r Cyngor, yn enwedig yr arbedion cronnus dros saith mlynedd y contract sydd yn fwy na £2.5m. Byddwn yn gweithio gyda phartner sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y gwaith o gaffael a chynnal a chadw fflydoedd mawr ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda dros 70 o gleientiaid ar draws y DU. Byddant hefyd yn cynnig hyfforddiant a datblygu, gan rannu eu profiad o arfer gorau o redeg gweithdai yn effeithlon gydan staff. Mae hwn yn ateb siop un stop ar gyfer darparu a chynnal a chadw fflydoedd, gan ryddhau adnoddau mewnol a lleihau costau gweinyddu a chostau cysylltiedig.” Maer contract wedi ei gynllunio i roi blaenoriaeth i ddatblygu cyfleoedd busnes o fewn yr ardal leol, gan wneud y defnydd gorau o gyflenwyr a gwasanaethau lleol.