Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Darpariaeth gofal yn Sir y Fflint

Published: 16/05/2016

Yn ystod y cyfarfod Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 22 Ebrill, cafodd Darparwyr Gofal Annibynnol yn Sir y Fflint gyfle i fynegi eu pryderon am y sector wrth Aelodau Craffu. Yn y cyfarfod cytunwyd bod y sector gofal ar draws y sir yn wynebu heriau sylweddol yn ddi-oed ac yn yr hir dymor a bod Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r angen am ddiwygiad cenedlaethol o safbwynt cyllidor sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd dod o hyd i ateb cynaliadwy yn gofyn am adnoddau sylweddol a bod cyfle i gydweithio gyda phartneriaid iechyd er mwyn datrys cymhlethdodau’r sefyllfa, gan ddatblygu modelau mwy integredig o ofal a chefnogaeth. Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Roeddwn yn falch bod cynrychiolwyr Darparwyr Gofal Annibynnol yn Sir y Fflint wedi mynychu cyfarfod mis Ebrill or Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol. Bu’r drafodaeth yn y cyfarfod yn adeiladol iawn a bydd o gymorth i ni ddeall yr anawsterau y mae Darparwyr Gofal Annibynnol yn eu hwynebu a sut gallwn weithio tuag at ein nod cyffredin o ddarparu’r gwasanaethau gofal gorau i bobl Sir y Fflint yn y cyfnod heriol hwn. “Bydd y Cyngor yn ymgyrchu’n gyhoeddus i sicrhau bod anghenion y Sector Gofal yn dal i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth newydd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Sicrhau bod ein partneriaid yn cydnabod taw dyma un o’r materion mwyaf anodd sy’n wynebau’r sector gyhoeddus. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Gyda’n partneriaid iechyd rydym yn archwilio amrywiaeth o fodelau darparu gan gynnwys modelau cydweithredol o ofal er mwyn cynnal yr economi gofal lleol ac rydym hefyd yn bwriadu cynyddun darpariaeth gofal cartref mewnol, gan weithion agos gyda darparwyr gofal. Rydym hefyd yn datblygu cynllun er mwyn cynnal tri chartref gofal preswyl Cyngor Sir y Fflint ac mae cynlluniau eisoes yn eu lle i ymestyn y ddarpariaeth Gofal Ychwanegol yn y Fflint a Threffynnon.