Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Marc Ansawdd i Dechraun Deg Sir y Fflint

Published: 18/05/2016

Mae Dechrau’n Deg Sir y Fflint wedi ennill y Marc Ansawdd CANparent am roi’r rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol ar waith ymhlith rhieni gofalwyr. Mae’r Marc Ansawdd CANparent yn nodi’r hyn y mae’n rhaid i sefydliadau ei wneud i brofi eu bod yn darparu gwasanaeth o safon benodol a hynny ar sail tystiolaeth gadarn, arferion llywodraethu cryf, a gweithdrefnau rheoli arian a rheoli risg dibynadwy. Hefyd, rhaid dangos iddynt ddangos bod ganddynt systemau cadarn o hyfforddi, goruchwylio a mesur a gwerthuso canlyniadau. Nid oes yr un marc ansawdd arall yn sicrhau bod sail dystiolaeth ar gyfer darparu gwasanaethau o safon, llywodraethu’n effeithiol ac ymgysylltu â rhieni. Fe’i datblygwyd ar gyfer y sector, gan y sector. Yn bwysicach na dim, mae’n rhoi hyder i rieni y byddant yn cael gwasanaeth credadwy, o safon. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae Marc Ansawdd CANparent yn sicrhau comisiynwyr fod sefydliad yn gweithredu’n briodol ac yn darparu gwasanaethau gwerth chweil ac effeithiol i rieni. I sicrhau hyn, roedd yn rhaid i raglen Dechrau’n Deg Sir y Fflint fynd drwy broses asesu drylwyr a oedd yn cynnwys darparu tystiolaeth i ddangos bod yr holl ddangosyddion wedi’u cyflawni mewn 4 safon. Mae hyn yn golygu y gellir dibynnu ar ddosbarthiadau rhianta Dechrau’n Deg i wneud gwahaniaeth mawr, gan wybod eu bod wedi’u seilio ar dystiolaeth, yn cael eu monitro a’u gwerthuso i wella’r berthynas rhwng rhieni a’u plant.” Bev Irvine, Cydgysylltydd Rhianta Dechraun Deg