Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Addewid Cyflogwyr
Published: 11/04/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddyfodol gweithwyr a phreswylwyr trwy
lansio addewid cyflogwyr.
Nod y fenter yw cefnogi gweithwyr a phreswylwyr yn y Sir trwy greu cyfleoedd.
Yn benodol, cymryd cam ymhellach pan fyddir yn gofalu am staff a chwsmeriaid,
hyrwyddo gweithio’n lleol a gwneud y Sir yn lle gwell i fyw a gweithio.
Trwy gymryd rhan ochr yn ochr â chyrff Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl) Sir y
Fflint sy’n bartneriaid uchelgais y cyngor yw bod yn gyflogwr o ddewis; i
ddatblygu, hybu a chefnogi amrywiaeth o gyfleoedd dysgu gydol oes i bobl sy’n
gweithio, mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, ac yn ein cymunedau; i
ddatblygu, hybu a chefnogi amrywiaeth ehangach o gyfleoedd addysg, cyflogaeth a
hyfforddiant i bawb, gyda phobl ifanc 16 i 24 mlwydd oed yn flaenoriaeth.
Yn y lansiad ar ddydd Iau 3 Ebrill 2014 gwelwyd partneriaid y BGLl yn ymuno yn
eu hymrwymiadau i’r holl staff. Mae’r BGLl yn cynnwys Cyngor Sir y Fflint,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Coleg Cambria, Cyngor Sir y
Fflint (CSFf), Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (CGLlSFf), Cyfoeth Naturiol
Cymru, Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd
Cyhoeddus Cymru, Prawf Cymru a Llywodraeth Cymru.
Ar y cyd â’r holl bartneriaid, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau lefelau
uchel o lythrennedd a rhifedd ymhlith gweithwyr, datblygu swyddi gyda
hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith, datblygu gweithwyr i gwrdd â’r
anghenion yn awr ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys ymagwedd newydd at
brofiad gwaith a phrentisiaethau, darparu cyfleoedd i symud ymlaen a chyfleoedd
gyrfa, recriwtio’n deg o’r tu mewn i farchnad lafur Sir y Fflint tra bydd
sicrhau iechyd a lles gweithwyr yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo yn y gweithle.
Trwy ymuno â’r Addewid Cyflogwyr, mae’r Cyngor yn anelu at gynyddu nifer ac
amrywiaeth y cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith; datblygu Rhaglen
Entrepreneuriaeth; datblygu Rhaglen Cyflogadwyedd; cyfrannu at amrywiaeth
ehangach o lwybrau at gyflogaeth; datblygu gwybodaeth am y farchnad lafur leol
a datblygu ymagweddau mwy arloesol at gynllunio’r gweithlu.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod y Cabinet dros Reoli Corfforaethol:
“Uchelgais y Cyngor yw annog holl bartneriaid y sector cyhoeddus, preifat a
gwirfoddol i gefnogi’r nodau sy’n gysylltiedig â’r addewid hwn. Bydd yn
datblygu ffyrdd newydd o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sydd â’r potensial i
wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yr un pryd â gwneud gwell defnydd o arian
cyhoeddus.”
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint ar 01352 702128.
Capsiwn y Llun: Ian Budd Cyngor Sir y Fflint, Sioned Rees, Llywodraeth Cymru,
Jackie James, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Judith Magaw, Prawf Cymru, Paul Whiting,
Prifysgol Glyndwr, Karen Armstrong, Cyngor Sir y Fflint, Paul Corner, Cyngor
Sir y Fflint, Ruth Simmons Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Gwasanaethau Tân ac
Achub Gogledd Cymru, David Jones, Coleg Cambria, Y Cyng. Aaron Shotton, Cyngor
Sir y Fflint, John Darlington, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Y Prif
Arolygydd Dave Owens, Heddlu Gogledd Cymru a Colin Everett, Cyngor Sir y
Fflint.