Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gofyn barn am gynlluniau’r Cyngor ar gyfer ynni adnewyddadwy

Published: 18/05/2016

Mae preswylwyr Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar gynllun gweithredu ynni adnewyddadwy deng mlynedd drafft y Cyngor. Bydd y cynllun uchelgeisiol yn gweld y Cyngor Sir yn creu ei ynni adnewyddadwy ei hun, trwy ddefnyddio rhai oi asedau tir sylweddol, yn amrywio o ffermydd i safleoedd tirlenwi wedi’u hadfer, parciau a choetiroedd, fel ffynonellau ynni adnewyddadwy. Bydd hyn yn gynaliadwy ac yn broffidiol, gydar incwm a gynhyrchir yn helpur Cyngor Sir yn ei her barhaus i ganfod arbedion ac effeithlonrwydd. Bydd hefyd yn creu twf economaidd a swyddi lleol. Mae pren gwastraff a gesglir ar safleoedd amwynder dinesig y Cyngor wedi ei nodi fel ffynhonnell bosibl o gynhyrchu pwer ar gyfer gwres a golau, gydag arbedion posibl a nodwyd o £500,000 y flwyddyn o leiaf. Mae mwy o blannu coed yn cael ei gynllunio, a fyddain creu ffynhonnell gynaliadwy o fiomas (sglodion coed, pelenni a logiau) a fyddai hefyd yn creu ardaloedd coetir ychwanegol, hygyrch ir cyhoedd. Ymhlith ei uchelgeisiau hefyd mae’r posibilrwydd, fel ffordd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, gallair Cyngor fod yn gyflenwr ynni i bobl a busnesau lleol. Mae ffermydd solar hefyd yn cael eu hystyried, gyda lleoliadau iw penderfynu. Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd i ofyn i bobl fynegi barn am nodau ac amcanion y cynllun. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Maer Cyngor hwn wedi ymrwymo i wneud ei gyfran deg i leihau ein hôl troed carbon, i ddefnyddio ynni mor effeithlon ag y gall ac i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ar bob cyfle. “Bydd ein cynllun gweithredu deng mlynedd, ar prosiectau arfaethedig o fewn iddo, â manteision tymor hir ar gyfer y Cyngor a phreswylwyr Sir y Fflint, gyda ffynhonnell sylweddol bosibl o incwm, costau ynni is, ar budd cynaliadwy o allyriadau carbon is. “Maer ymgynghoriad hwn yn gyfle in preswylwyr a busnesau rannu eu barn ar ein cynllun uchelgeisiol, a byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i lenwir holiadur. Maer holiadur ar gael yn www.siryfflint.gov.uk/YnniAdnewyddadwy. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 29 Mehefin.