Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cabinet yn cytuno ar gyllid arloesol ar gyfer cynllun tai

Published: 20/05/2016

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf i ariannu datblygiad o 62 o dai fforddiadwy yn y Fflint - y cyngor cyntaf yng Nghymru i gytuno ar y dull chwyldroadol hwn i ariannu tai fforddiadwy. Maer 62 o eiddo yn ffurfio rhan o Raglen Tai a Chyllid Strategol y Cyngor (SHARP) syn bwriadu adeiladu 300 o dai fforddiadwy yn y sir rhwng 2016 ac 2020. Y gost adeiladu a ragwelir ar hyn o bryd ar gyfer y cynllun yw £7.4M. Dywedodd Cadeirydd Bwrdd NEW Homes, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Unwaith y bydd y cartrefi hyn wediu hadeiladu, byddent yn cael eu rheoli gan NEW Homes (Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru), cwmni a sefydlwyd gan y Cyngor ym mis Ebrill 2014 i gynyddur opsiynau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Cyfarfur bwrdd NEW Homes ar 26 Ebrill, ac ar ôl ystyried yn ofalus amrywiaeth o opsiynau, cytunwyd mai’r darparwr cyllid a ffafrir yw Cyngor Sir y Fflint. Gydar arian hwn yn ei le, bydd NEW Homes yn gallu ymestyn ei gynnig o dai fforddiadwy o ansawdd yn y Fflint ac ar draws y sir.” Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’n ffordd wirioneddol arloesol a chyffrous i ariannu tai fforddiadwy ar gyfer ein trigolion. Bydd y datblygiad hwn yn cefnogi cyflawni amcan strategol allweddol yng Nghynllun Gwellar Cyngor wrth gynhyrchu enillion ariannol ir Cyngor ar gyfer y 45 mlynedd nesaf. “Gan fod NEW Homes yn gwmni newydd nid oes ganddo ddigon o hanes credyd i fenthyg yn uniongyrchol i ariannu’r cynllun The Walks yn annibynnol heb warant gan y cyngor. Ar ôl ystyried nifer o opsiynau prydlesu sector preifat eraill fe gytunodd y Bwrdd mai benthyca gan y Cyngor oedd eu llwybr o ddewis. “Nid yn unig y byddair broses o sicrhau’r arian yn cael ei wneud yn gyflymach, gan alluogi cychwyn cynharach ar y safle, bydd y Cyngor yn gallu codi llog uwch i NEW Homes nag y gall fenthyca arno, ond mae’n debyg y bydd y gyfradd hon yn parhau i fod yn is nar gyfradd y byddai NEW Homes yn gallu ei gyflawni ar gyfer y farchnad breifat. Ar gyfer y Cyngor, mae hyn yn risg isel ac yn darparu llif incwm newydd y gellir ei efelychu yn y dyfodol ar gyfer blaenoriaethau strategol eraill.” Unwaith y bydd y tai yn cael eu hadeiladu, bydd y Cyngor hefyd yn elwa o Dreth y Cyngor ychwanegol y bydd y tenantiaid syn byw yn yr eiddo newydd yn ei dalu.