Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdai Wythnos Gelf i Blant Sir y Fflint

Published: 06/06/2016

Dewch i ymuno a Ticky Lowe i greu pryfed ffelt prydferth i ddathlu Wythnos Gelf i Blant ar y thema ‘Pryfed Prydferth’. Mae’r gweithdai yn addas ar gyfer pob oed a gallu ond mae rhaid i blant o dan 8 oed ddod gydag oedolyn. Bydd cyfranogwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau ffeltio ar y thema ‘Pryfed Prydferth’ mewn gwahanol leoliadau ar draws y sir. Sadwrn 11 o Fehefin yn Llyfrgell Treffynnon 10.00yb – 12.00yp Cadw Lle: 01352 713157 Sul 12 o Fehefin yn Nyffryn Maesglas 2.00yp – 4.00yp Cadw Lle: 01352 714172 Cost: £3.90 y plentyn gan gynnwys mynediad i’r amgueddfa, un oedolyn yn unig i gael mynediad i’r amgueddfa am ddim pan yn dod gyda plentyn i’r gweithdy. Sadwrn 18 o Fehefin yn Llyfrgell yr Wyddgrug 1.30yp – 3.30yp Cadw Lle: 01352 754791 Sul 19 o Fehefin ym Mharc Gwepra, Cei Connah 10.30yb – 12.30yp Cadw Lle: 01352 703900 Mae pob gweithdy yn costio £3 y plentyn (oni nodir yn wahanol uchod), oedolion am ddim ac mae’n hanfodol cadw lle gan mai dim ond lle i 15 plentyn sydd ar pob gweithdy. I gadw lle cysylltwch â’r lleoliad, mae rhifau ffôn ar gael uchod. Am wybodaeth bellach gyrrwch e-bost at gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk.