Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyniad llwyddiannus i Safonau Masnach Sir y Fflint

Published: 30/06/2021

Successful prosecution.jpeg

Mae Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi erlyn unigolyn yn llwyddiannus am feddiant a gwerthu nwyddau ffug.

Bu i Berham Salih o Bradle, Wrecsam, bledio’n euog yn Llys Ynadon yr Wyddgrug am feddiant a gwerthu sigaréts ffug ac anghyfreithlon o'r siop oedd yn masnachu fel Grosik yn 23-25 Chester Road West, Shotton.  

Cyflwynwyd tystiolaeth i’r llys yn dangos fod Mr Salih, a oedd yn gyfarwyddwr Grosik (Shotton) Cyf, yn gwerthu tybaco anghyfreithlon yn bersonol dros gyfnod o sawl wythnos yn 2019. Yn ychwanegol bu i Safonau Masnach atafael â nifer fawr o sigaréts a thybaco anghyfreithlon o dan y cownter ac o gefn y siop.  

Ymddiheurodd Mr Salih, gan ddweud ei fod wedi gwneud camgymeriad ac o ganlyniad i Covid mae ei fusnes wedi gorffen masnachu. Cafodd orchymyn i dalu cyfanswm o £2,351.14. Bu i’r llys hefyd wneud gorchymyn atafael a dinistrio ar gyfer yr holl sigaréts a afafaelwyd. 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio:

“Mae’r achos hwn a’r euogfarn ddilynol yn bwysig ac yn dangos y bydd siopau sy'n gwerthu sigaréts a thybaco anghyfreithlon yn cael eu canfod a bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu cymryd i'r llys. Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon yn tanseilio’r ymdrechion sylweddol a wnaed i leihau niweidion iechyd sy’n gysylltiedig ag ysmygu.  Mae masnachu tybaco anghyfreithlon yn cefnogi cam-fanteisio, osgoi trethi a throsedd wedi ei threfnu.  Rydym yn parhau i fod yn rhagweithiol yn ein hymdrechion i fynd i'r afael ag o.”