Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Menter yr Ifanc Gogledd Cymru

Published: 12/06/2014

Mae grwp o bobl ifanc o ysgol yn yr Wyddgrug wedi ennill cystadleuaeth fusnes ar ôl sefydlu eu cwmni eu hunain. Mae tîm o fyfyrwyr Blwyddyn 12 o Ysgol Alun, Yr Wyddgrug, wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Menter yr Ifanc Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn y Rhyl gyda’u cwmni Decoslate. Fel rhan o grwp ysgol menter yr ifanc maent wedi ffurfio cwmni ai redeg yn union fel pe bain fusnes masnachu. Mae Decoslate yn gwneud eitemau cartref allan o lechi Cymreig ac enillodd y tîm adran Adroddiad Cwmni Gorau a Chwmni Gorau Cyffredinol yn y gystadleuaeth. Byddant yn mynd ymlaen i gynrychioli rhaglen Cwmni Gogledd Ddwyrain Cymru yn rownd derfynol Cymru gyfan yng Nghaerdydd ym mis Mehefin. Dywedodd pennaeth Ysgol Alun, Ashley Jones: “Maen wych bod y tîm hwn o fyfyrwyr wedi cadw ein record balch o lwyddiant mewn cystadlaethau Menter yr Ifanc ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt fynd ymlaen i gystadlu yn y rownd derfynol genedlaethol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Maer disgyblion yn y tîm wedi dangos menter go iawn ac wedi cael syniad gwych ar gyfer cwmni. Mae adlewyrchu sefyllfaoedd busnes bob dydd yn hyfforddiant da ar gyfer byd gwaith ac yn cyfuno addysg gyda sgiliau entrepreneuraidd. Mae Menter yr Ifanc yn cael ei gefnogin llawn gan Gyngor Sir y Fflint a dymunaf lawer o lwc iddyn nhw ar gyfer y rownd derfynol. Capsiwn y llun: Myfyrwyr Blwyddyn 12 gyda chynhyrchion llechi a wnaed gan eu cwmni Decoslate.