Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 08/07/2021

Yn ddiweddarach yn y mis, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dyma bumed flwyddyn y fformat newydd ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol a gaiff ei baratoi dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA).

Bwriad yr adroddiad yw rhoi darlun gonest i’r cyhoedd, y rheolydd a budd-ddeiliaid ehangach o wasanaethau yn Sir y Fflint, a dangos dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r heriau sy’n cael eu hwynebu. Mae’r adroddiad yn egluro sut mae’r gwasanaethau wedi cyfarfod â’r heriau a gyflwynwyd gan Covid-19.

Mae gan y Cyngor sawl llwyddiant i’w dathlu yn y gwaith sy’n cael ei wneud i hyrwyddo a gwella lles bobl yn y Sir, gan gynnwys:

  • Cychwyn gwasanaeth Meicro-Ofal, gyda 20 o Feicro-ofalwyr yn cynnig y gwasanaeth yn y sir (cynnydd o’r 12 a oedd ym mis Mawrth)
  • Datblygu ein gweithrediadau ymhellach er mwyn cefnogi pobol sy’n byw â dementia.
  • Rhoi diwedd ar pob trais gwrywaidd yn erbyn merched drwy ddod yn Achrededig â’r Rhuban Gwyn.
  • Cydnabyddiaeth o’n gwasanaethau Anabledd Dysgu yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru ac ar y rhestr fel ar gyfer Gwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE).
  • Cyflogi dau o ôl-raddedigion, pobl ifanc ag Anableddau Dysgu o raglen Prosiect SEARCH, i’n gwasanaethau, ac eraill yn mynd i mewn i gyflogaeth am dâl.
  • Rhoi’r model Cefnogi Gofalwyr Maeth ar waith – ‘Mockingbird’. 

Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’r adroddiad cynhwysfawr yn gosod y sefyllfa bositif ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint ac yn dangos er y pwysau digynsail ar wasanaethau, fod ein staff yn parhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i gefnogi’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn yn y sir.   Dylid parhau i ddathlu ein gweithwyr fel arwyr ochr yn ochr â gweithwyr iechyd, gweithwyr yn y gadwyn gyflenwi bwyd, gweithwyr sy’n danfon a gweithwyr yn y swyddfa bost, gwirfoddolwyr a sawl un arall.

“Wrth i ni symud ymlaen, gwyddwn y bydd Covid-19 yn parhau i gael effaith ar ein cymuned a’n gwasanaethau i mewn i 2021/22. Thema sy’n llifo drwy’r adroddiad yw ein hymateb parhaus i hyn, ac adferiad gwasanaethau pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.”

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Y Cynghorydd Christine Jones:

“Mae’r adroddiad yma yn un rhagorol ac yn asesiad teg o’n perfformiad fel gwasanaeth llynedd. Mae wedi bod yn bleser gweld sut mae ein swyddogion wedi addasu a pharhau i gefnogi ein preswylwyr yn ystod cyfnod anodd yma.   Hoffwn ddweud, fel bob tro, pa mor falch ydw i a Neil o’n gweithwyr pan ydyn ni i gyd wedi wynebu heriau digynsail, ond eto rydyn ni yn dal i allu parhau i gefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn. Mae hyn yn destament i waith caled ac ymroddiad ein gweithwyr anhygoel.

“Er hyn, dydyn ni ddim yn bodloni, a byddwn yn parhau i edrych ar sut y gallwn wella, yn enwedig yn ystod cyfnodau heriol sy’n dangos galw cynyddol ar ein gwasanaethau.”

Mae’r adroddiad blynyddol yn amlinellu’r blaenoriaethau gwella sydd wedi eu nodi ar gyfer 2021/22. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Datblygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu er mwyn cefnogi pobol sy’n byw â dementia ynghyd â’u gofalwyr, a pharhau i gael ein cydnabod fel Cyngor sy’n ‘Gweithio tuag at fod yn gyngor Dementia Gyfeillgar’;
  • Rhoi model newydd gofal a chefnogaeth ar waith yn Arosfa;
  • Annog gweithwyr i gwblhau modiwl e-ddysgu Llywodraeth Cymru ynglyn â “Cham-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn erbyn Merched” er mwyn cyrraedd cyfradd cwblhau o 100%;
  • Datblygu Prosiect SEARCH ymhellach;
  • Datblygu cyfleoedd i unigolion awtistig gael mynediad i wasanaethau yn lleol;
  • Parhau i weithio i leihau y niferoedd o blant mewn gofal mewn modd diogel a gwella canlyniadau’r rhai mewn gofal;
  • Parhau i roi model maethu Mockingbird ar waith fesul cam;
  • Datblygu cynlluniau ymestyn gofal preswyl mewnol;
  • Lansio gwasanaeth preswyl tymor byr i ddylanwadu ar y lleoliad symud ymlaen a’r pecyn cymorth mwyaf priodol i bobl ifanc;
  • Datblygu cynllun ‘Cartrefi Bach’ i blant.