Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Ddigidol

Published: 07/07/2021

Bydd aelodau o’r Cabinet yn croesawu’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn y broses o gyflwyno Sir y Fflint Ddigidol 2017-2022, a bydd gofyn iddynt gymeradwyo’r fersiwn sydd wedi ei hadnewyddu sef Strategaeth 2021-2026, pan fyddant yn cwrdd ar ddydd Mawrth 13 Gorffennaf.

Mae Sir y Fflint yn Gyngor uchelgeisiol sydd eisoes wedi cwblhau sawl un o’r amcanion a osodwyd yn y Strategaeth wreiddiol.  Mae hefyd sefyllfaoedd wedi bod sydd wedi cyflymu’r gofyn am wasanaethau digidol a chyflymu’r broses o’u darparu – yn arwyddocaol, y ddibyniaeth fawr ar dechnoleg ddigidol o ganlyniad i Covid-19.

Dywedodd Y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Sir y Fflint:

“Mae nawr yn amser addas i adolygu ac adnewyddu’r strategaeth. Rydym yn cynnig drafft diwygiedig o’r Strategaeth sy’n ymgorffori yr hyn yr ydyn ni wedi ei ddysgu, profiadau, tyfiant a’n huchelgais. Mae hefyd yn cynnwys thema ar wahân gydag amcanion i helpu leihau’r rhwystrau i rai sydd efallai heb y sgiliau, dyfeisiau na’r modd o gysylltu ar gyfer cymryd mantais o’r gwasanaethau digidol.”

Mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd da wrth gyflwyno’r amcanion sydd wedi eu gosod yn Sir y Fflint Digidol 2017-2022. Mae rhai o’r llwyddiannau yn cynnwys:

  • Gwella gwasanaeth i gwsmeriaid drwy ddiweddaru’r wefan gorfforaethol ac ehangu ar yr ystod o wasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid ar-lein;
  • Cyflwyno cyfrif cwsmer diogel wedi’i bersonoli, My Account;
  • Cydweithio ag awdurdodau eraill a sefydliadau sy’n bartneriaid er mwyn cyflwyno prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol i wella gwasanaethau;
  • Gweithio â phartneriaid i wella mynediad i’r band eang drwy’r rhanbarth a chydgysylltu â chymunedau gwledig i asesu eu gofynion a darparu cefnogaeth;
  • Darparu sylfaen gadarn ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm i ysgolion drwy raglen HWB Llywodraeth Cymru, gan ddiweddaru isadeiledd a thechnoleg i gyrraedd y safonau cenedlaethol sydd wedi eu cymeradwyo.

Mae’r Cyngor nawr yn darparu sawl gwasanaeth mewn ffordd wahanol, ac rydyn ni angen ail-ganolbwyntio ein huchelgeisiau a’n dull o gyflawni ein dyletswyddau a’n rhwymedigaethau.

Dyma rhai esiamplau o’r gwaith sydd wedi ei wneud drwy gydol y pandemig ac wrth i bethau wella:

  • Galluogi dysgu o bell drwy ddarparu datrysiadau i ysgolion allu cysylltu-o-bell:
  • Darparu dyfeisiau a chyfarpar Wi-Fi symudol i ddysgwyr dan anfantais ddigidol ar draws Sir y Fflint.
  • Hwyluso’r parhad o ddarparu gwasanaethau allweddol drwy alluogi gweithiwyr i weithio o’u cartref;
  • Darparu gwasanaethau digidol a datrysiadau ychwanegol fel:
    • Offer cyfathrebu newydd (e.e. galwadau fideo, WhatsApp)
    • Ceisiadau ar-lein ar gyfer gwasanaethau e.e. rhyddhad ardrethi busnes, cynigion gofal plant, prydau ysgol am ddim, ceisiadau gweithwyr allweddol, ceisiadau gofal ar gyfer plant diamddiffyn, ceisiadau ailgylchu.
  • Gwaith ymateb uniongyrchol i Covid, gan gynnwys anfon llythyrau a chyfathrebu â phreswylwyr bregus oedd yn cysgodi a defnyddio ein gwasanaethau data i helpu preswylwyr drwy ddarparu gwybodaeth a nodi lleoliadau ar fap ar gyfer gwasanaethau lleol fel fferyllfeydd, banciau bwyd, gwasanaethau danfon a gwasanaethau cefnogaeth eraill;
  • Cefnogi Profi Olrhain Diogelu drwy ddatblygu systemau, hyfforddiant, offer a theleffoni.

Bydd y fersiwn wedi’i hadnewyddu o’r Strategaeth Ddigidol ar gyfer 2021-2026 yn mynd allan i ymgynghoriad â grwpiau defnyddiwr, cyn iddi gael ei chymeradwyo yn llawn gan y Prif Swyddog Llywodraethu a’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau.