Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfleoedd cyflogaeth mewn gwesty lleol

Published: 07/07/2021

pub image.jpgYdych chi’n dymuno gweithio yn y sector lletygarwch ac yn chwilio am help a chyngor?  

Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad “cwrdd a chyfarch” a gynhelir yng ngwesty’r Village St David’s yn Ewlo ddydd Mawrth 20 Gorffennaf.  Bydd Cymunedau am Waith Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yno i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i’ch swydd nesaf yn y sector lletygarwch.

Mae’n hanfodol eich bod yn archebu lle o flaen llaw.  Mae slotiau ar gael rhwng yr amseroedd canlynol:

10 – 11am

11:30am – 12:30pm

1 – 2pm 

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Gwesty’r Village St David’s, Don Timmons: 

 “Mae Gwesty’r Village Hotel Club yn ymroddedig i ddatblygu ein tîm.  Rydym yn cynnig hyfforddiant mewn swydd yn ogystal â’n rhaglen ‘Rising Stars’ sy'n rhoi sgiliau i'n Tîm Rheoli fynd ymlaen i fod yn Rheolwyr Gwesty a Rheolwyr Cyffredinol. Mae lletygarwch yn ddiwydiant mor gyffrous lle rydym yn ceisio datblygu ein holl dîm i gyrraedd eu llawn botensial.”

Oherwydd Covid-19 ac am resymau eraill hefyd, mae llawer yn y diwydiant lletygarwch yn gweld prinder staff mewn amryw o swyddi.  Felly os ydych yn barod i weithio mewn sector diddorol ac amrywiol o'r economi, archebwch le a dewch i siarad gyda'r tîm ar 20 Gorffennaf.

I archebu lle, e-bostiwch: sharon-jones@flintshire.gov.uk neu nia.parry@flintshire.gov.uk.