Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogaeth lles i bobl ifanc

Published: 13/07/2021

IYP.jpgYn ddiweddar mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint wedi cynnal ymgynghoriad ar y cyd â Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam i ganfod effeithiau Covid-19 ar fywydau pobl ifanc.  

Mae pobl ifanc ar draws y ddau Gyngor wedi mynegi pryderon ynglyn â'u hiechyd meddwl, addysg, cyflogaeth ac incwm.

Mae’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar berthnasau cymdeithasol i rai pobl ifanc gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd. Mae pobl ifanc yn teimlo fod y pandemig wedi effeithio’n fawr ar eu hiechyd meddwl ac maent yn teimlo nad oeddent yn gwybod ble i fynd am gymorth a chyngor yn ystod y cyfnodau clo.

Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

 “Mae’n bwysig nodi, yn ystod y 12 mis diwethaf, fod addysg, athrawon a staff ysgol wedi mynd y tu hwnt i'r gofyn i gadw ein hysgolion ar agor i blant gweithwyr allweddol a darparu addysgu ar lein i bobl ifanc.

 “Fodd bynnag, mae’n amlwg o ganlyniadau'r arolwg, nad oedd bobl ifanc bob amser yn gwybod sut neu o ble i gael cefnogaeth.  I’r perwyl hwn, mae'r Gwasanaeth Ieuenctid wedi datblygu taflenni i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi a fydd yn eu cyfeirio at wybodaeth a chymorth.”

Ewch i dudalen gwe Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint ble mae gwybodaeth, gan gynnwys dolenni at y ddwy daflen.

Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar dudalen Facebook ac ar Instagram.